Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

menyn

menyn

Ar ôl i ni fod yn y farchnad, ac i Anti Nel brynu menyn yno, mi ddaethon ni'n ôl yma wedyn i ollwng y negas, a mynd i lawr i'r cei, i edrach os oedd cwch Uncle Danial yno.

Byddai fy ewythr Wncwl Jack yn rhoddi ffyrling wedi ei lapio mewn menyn i'w gi pan y byddai llyngyr amo.

Dowch, helpwch eich hun.' Mwynhâi Dan y bara' menyn a'r jam a'r bara brith yn fawr iawn, a theimlai'n newynog ar ôl ei ginio cynnar a brysiog.

'Un na fase menyn yn toddi'n ei cheg hi.

Fedra i ddim dod dros Anti Nel yn prynu menyn yn y farchnad!

Yr adeg hyn aeth pont yr Hendre i lawr o dan wagen a llwyth o had alffalffa, a bu i'r gyrrwr a'r ceffylau farw yn y ddamwain; o'r herwydd 'roedd rhaid i Mrs Freeman fynd mewn cerbyd at yr afon, croesi ar y bont droed gyda'r basgedi menyn, a chael menthyg cerbyd Thomas Pugh i fynd at Drelew.

Ni lyncwyd Alun Jones nac Aled Islwyn gan y cyfryngau, ac er bod William Owen Roberts yn ennill ei fara menyn ym myd y teledu, mae'n ymddangos fod y nofel yn gyfrwng a apeliodd yn arbennig ato am ei bod yn rhoi cyfle iddo fynegi'i weledigaeth mewn modd mwy myfyrdodus na'r teledu.

Rhys: Brwyn y tir llaeth sy'n melynu'r hufen, fe allwn gywiro menyn a magu lloi .

Mae yna ddau liw arall yn y chlorophyll - lliw melyn y carotin sydd i'w weld mewn menyn, a lliw oren y xanthophyll sydd i'w weld mewn melynwy.

Dim ond inni gymharu margarin a menyn, does dim amheuaeth mai'r pris sy'n effeithio ar ddewis y naill a gwrthod y llall.

Temtasiwn i ohebydd yn crafu am ei fara menyn fyddai defnyddio'r hen dric o lunio stori negyddol wedi ei seilio ar wadiad ffaith neu honiad dychmygol.

Roedd ynunion fel cegin ffermdy - dresel, cwpwrdd tridarn, tan agored mewn basged haearn bwrw hanner ffordd i fyny'r wal, a goginiai gigoedd a physgod mewn dull barbiciw, crogai anferth o iau bren ar wal arall ynghyd a phob math o daclau gwneud menyn.

Byddai'r llestri a ddefnyddid i wneud menyn yn siwr o gynnwys rhywfaint o'r pren gan fod gwrachod yn enwog am eu gallu i rwystro corddi.

Cofiaf fel y byddem yn plastro menyn ffarm yn dew hyd-ddynt ac yna'r siwgr yn toddi'n ddi-rwgnach yn y môr melyn.

Yn y tŷ rhaid oedd pobi bara, gwneud caws a menyn, coginio'r prydau bwyd, nyddu a gwau, golchi a thrwsio dillad yn ogystal â gofalu am y plant.

Ond os byddwch yn defnyddio menyn neu fargarin, ceisiwch y math calori-isel a'i daenu'n deneuach.

Mae menyn (heb unrhyw hormonau na chemegau ar hyn o bryd) yn llawer iachach na margarin sy'n fyrdd o gemegau a lliwiau gwenwynig.

Soniai wedyn am yr hwyl yn y gegin gydag eraill o'r gweithwyr lle'r oedd pob un un cael hanner pwys o fenyn yn ddogn am yr wythnos yn ei lestr menyn.

Dogni menyn a chig moch.