Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

menyw

menyw

Ni chlywswn ef o'r blaen, a daeth iasau rhyfedd drosof wrth wrando ar ddyn dall yn claddu menyw ifanc.

Lladdwyd menyw pan gwympodd dan lori mewn protest debyg yn Lloegr.

Dyn a menyw, glowr ac athrawes, comiwnydd a chenedlaetholwraig, Rhondda Saesneg ac Arfon Gymraeg, mae'r gwrthgyferbyniadau'n amlwg, ac fe gant eu hadlewyrchu'n glir yn eu gweithiau.

'Menyw wedi dod o hyd i gorff.

Fe ddaethon ni ar draws pedair menyw a'u plant yn ymolchi mewn ffynnon - yr unig gyflenwad o ddŵr ffres yn y pentre'.

Cymraes ddi-Gymraeg o Bort Talbot oedd y Chwaer Jean Ryan - menyw dal, ei gwallt golau'n britho ac yn pipian drwy ei phenwisg a'i llygaid glas yn cwato y tu ôl i sbectol a oedd yn tywyllu gyda'r haul.

Menyw galed oedd hi.

Aeth menyw a deithiai i Lunden...

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

Tra'n ffilmio caeau reis fe daeth menyw chwilfrydig heibio a gofyn beth oedden ni'n ei wneud.

Yn gam a menyw ac yn gam ag un o'r 'teithwyr'.

Mae bachgen pedair oed a menyw sy'n gweithio yn y gegin yn Ysgol Fabanod Ynysboeth yn Abercynon yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Rhag ofn i chi fynd i guddio y tu ôl i'r soffa a chymryd arnoch bod yna neb adre, fe fyddai'n werth cofio eich bod chi'r un mor debygol o ganfor menyw dal, ffasiynol ei gwisg, â chrop o wallt gwyn, yn sefyll ar y rhiniog â chriw o Dystion Jehovah.

Y tū tu mewn yn foel a chwerthinllyd o lân, dwi ddim yn meddwl y medrai fforddio menyw i lanhau.

Mae aelodaeth o'r grŵp Heddlu a'r Gyfraith yn agored i bob menyw yn y mudiad sydd am gymryd rhan yn bennaf mewn dwy agwedd ar waith CiF ymgyrchu ar yr naill law, a hyfforddi Heddluoedd Cymru ar y llall, gan geisio hyrwyddo gwell dealltwriaeth o sefyllfa anodd a pheryglus dros ben, menywod a phlant a beryglir gan drais gan yr union berson ddylai fod yn eu hamddiffyn.