Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mesuriad

mesuriad

Mae'n dibynnu'n hollol ar y person sy'n mesur, a'r man lle gwneir y mesuriad.

Ond mae Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg yn cadarnhau yn awr beth mae'r seicolegwyr wedi ei wybod yn eu calonnau, er na allent ei ddatgan yn glir, sef na all dau berson fyth wneud yr un mesuriad a chael yr un atebiad yn union.

Peth arall a ystyrir yn sylfaenol yw, pe byddai un gwyddonydd yn gwneud un mesuriad mewn un labordy, ac un arall yn gwneud yr union fesuriad mewn labordy arall o dan yr union amgylchiadau, yna byddai'r ddau yn cael yr un atebiad.

Naill ai mewn ffiseg neu seicoleg mae'r mesurwyr yn sicr o ddylanwadu ar y mesuriad.

Gellir taenu chwynladdwr detholus yn ôl y mesuriad cywir ar wyneb y lawnt gan ddefnyddio peiriant.