Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

method

method

Y mae sicrwydd y gwyddonydd yn gorffwys bellach nid ar unrhyw ddatguddiad dwyfol ond ar effeithiolrwydd y method gwyddonol.

Nid oedd ddirgelwch yn y bydysawd i gyd na ellid ei ddatrys trwy gymhwyso'r method gwyddonol.

Os yw meddwl, teimlo ac ewyllysio i'w hesbonio, fel cylchdro'r planedau, yn ôl deddfau haearnaidd y method gwyddonol, yna ofer sôn am bersonoliaeth rydd.

A buan y daeth y brotest yn erbyn honiadau totalitaraidd y method gwyddonol.

Ni thâl cyhoeddi mai gwyddoniaeth a'r method y mae hi'n ei ddefnyddio yw'r allwedd i bob gwedd ar realiti.

Os oedd y method gwyddonol yr unig ffordd ddilys i sicrhau gwybodaeth am bob gwedd ar y bydysawd, onid oedd yn dilyn fod y bersonoliaeth hithau i'w hesbonio wrth yr un method?

Ni allai'r method gwyddonol oddef unrhyw docio ar ei therfynau.

Wedi'r cwbl, ni allai'r method ganiata/ u hunanlywodraeth i unrhyw ran o realiti.