Ateg i'r dybiaeth yw fod yn y Llyfr Coch gyfres o drioedd yn rhestru casbethau 'Gwilim Hir, saer Hopkyn ap Thomas.' Y beirdd a ganodd i Hopcyn ydoedd Dafydd y Coed, Ieuan llwyd fab y Gargam, Llywelyn Goch ap Meurug Hen, Madog Dwygraig a Meurug fab Iorwerth.
Gwelsom eisoes i fardd a oedd ymhlith y Cywyddwyr cyntaf - Llywelyn Goch ap Meurug Hen - ganu i Hopcyn ap Tomas, ond ar fesur awdl.