Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mewnlifiad

mewnlifiad

Rhoes y mewnlifiad trwm cyn ac yn fwy byth yn ystod y rhyfel bwysau llethol wrth gefn y broses Seisnigo yn yr ardaloedd diwydiannol, tra oedd y rhyfel ei hun yn dyfnhau Prydeindod y Cymry.

Daeth y ddau i lawr i'r De o Ddinas mawddwy, un o'r pentrefi hyfrytaf a Chymreiciaf y pryd hwnnw cyn y mewnlifiad Saesneg iddo, ond yn Nant-y-moel y'm ganed i.

Rheswm arall wedyn am y diffygion a nodwyd yw dwysedd y mewnlifiad cyson o Saeson i aardaloedd gwledig Cymru.

Mewnlifiad

Am y tro cyntaf cafwyd mewnlifiad mawr o aelodau i'r Blaid na fedrent Gymraeg, ac yn cynrychioli ardaloedd diwydiannol Cymru.

Dyna'r math o ymgyrchu mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ei wneud i geisio dad-wneud effeithiau'r mewnlifiad ar y Gymraeg.

Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd sylw'r Swyddfa Gymreig yn gyson at bwysigrwydd y cynlluniau sydd gan yr awdurdodau i gynnal gwasanaeth athrawon bro a sefydlu canolfannau i hwyr-ddyfodiaid er mwyn goresgyn anawsterau sy'n codi o brinder athrawon a mewnlifiad disgyblion di-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg.

Chwalwyd cymunedau Cymraeg, collwyd llawer o Gymry ifanc a daeth mewnlifiad mawr i Seisnigo'n pentrefi.

Oherwydd dinistrio sylfaen bentrefol ein hiaith rhaid creu sylfaen newydd iddi; troedle a fedr wrthsefyll bygythiadau'r mewnlifiad cyson o Saeson i'r ardaloedd gwledig, a throedle a fedr gymathu nifer sylweddol ohonynt heb danseilio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Ond yn ôl llygad-dystion, doedd dim amheuaeth fod Iran wedi delio'n gyflym ac yn effeithiol â'r mewnlifiad anferth.

Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.