Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mherthynas

mherthynas

'Roedd pethau'n mynd yn esmwyth iawn ym mherthynas Teg a Cassie ar y dechrau ond dechreuodd pethau fynd o chwith yn gynta pan ddaeth Steffan i chwilio am ei fam - 'doedd Cassie 'rioed wedi cyfadde wrth Teg fod ganddi blentyn cyn priodi - ac yna pan benderfynodd Beryl, mam Cassie, adael y gogledd a dod i fyw at ei merch i'r Deri.

Pris arall a dalwyd yw'r newid ym mherthynas amaeth â bywyd gwyllt a'r tirlun.

Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.

Yr oedd yn bigog iawn rhyngddo a'r Deon Edmund Griffith ac y mae'r berthynas honno'n enghreifftio nodwedd amlwg iawn ym mherthynas yr Eglwys a theuluoedd uchelwrol sir Gaernarfon.

Dangosodd y ddau awdur cyfoes yr elfennau o losgach sydd yn chwedl Branwen, a bu Saunders Lewis yn ymdrin â Blodeuwedd hefyd, wrth gwrs, ac yn y cyfan fe welir y gwenwyn sydd ym mherthynas pawb â'i gilydd, a'r clwyf marwol sydd mewn serch i rai fel Trystan ac Esyllt.

Treuliaid fy llencyndod yng Ngheinewydd, Ceredigion lle'r oedd fy nhad yn weinidog, ond, ac edrych yn ol, digon arwynebol oedd fy mherthynas a'r gymuned yno.