Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mhlith

mhlith

Yn mhlith holl ryfeddodau'r nef Hwn yw y mwyaf un, I weld anfeidrol, ddwyfol Fod Yn gwisgo natur dyn...

O safbwynt cyfnewidiad cymdeithasol yr oedd Rheolau a Dybenion y Cymdeithasau Neillduol yn mhlith y Bobl a elwir y Methodistiaid yn Nghymru yn dra arwyddocaol.

Ryw ddydd, efallai, byddai'n ddigon cyfoethog ei hun, gan ei fod yn dechrau casglu symiau go fawr erbyn hyn a chreu cysylltiadau elwgar ym mhlith brodyr ariannog y deyrnas - gwobrau llwgr ei swydd.

Ym mhlith y rhain hefyd y mae cyfraniad dieithr y dyn du a fu'n aros yn ein tŷ ni unwaith - mewn dyddiau pan oedd gweld dyn du yn dipyn o gyffro, heb sôn am ei fod yn cysgu'n yr ystafell nesaf.

Dichon mai ym mhlith y rhain y dylid gosod y rhai trymion, y rhai nad yw llyfr otograff iddynt ddim i'w gymryd yn ysgafn.

Nyni y Cymmrodorion a ddatguddiwn i'r byd werthfawrogrwydd yr hen Iaith hon, mewn lliwiau mor brydferth, ag y bydd ei chyfri rhagllaw yn anrhydedd ei siarad ym mhlith Dysgedigion a Dyledogion y Deyrnas, ie, yn llys y Brenin, mal yr arferid gynt.

Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.

Fe fu iddo hefyd le anrhydeddus 'mhlith beirdd a llenorion y ganrif.

Sut bynnag, aeth digon o amser heibio i weld fod ymweliad byr Wil Twmpath wedi dylanwadu'n fawr ar fywyd yn N'Ogiaid, achos cyn gynted ag y profodd y Brenin Affos y wynwyn aethant yn ffefryn mawr ym mhlith bwydydd y llys, ac yr oedd Affos a'i wraig Navid, a Namotto eu merch yn ddigon poblogaidd i ddechrau'r ffasiwn trwy'r holl deyrnas.

Hyd ddechrau'r ganrif bresennol yr oedd plant mewn ysgolion yng nghanol y Gymru Gymraeg yn cael eu cosbi am siarad eu hiaith ym mhlith ei gilydd hyd yn oed ar y maes chwarae.