Pa fodd y rhowch chwi gyfrif am eich tenantiaid truain?" Yn yr un ysbryd, gadawodd Wroth elw tair acer o dir a brynasai ym mhlwyf Magwyr i fod yn rhodd flynyddol i ddeuddeg o dlodion Llanfaches.
Mae afon Cafnan yn tarddu yn Llyn Llygeirian ym mhlwyf Llanfechell ac yn llifo tua'r gogledd i'r môr ym Mhorth y Pistyll, cilfach fechan ar ochr orllewinol Trwyn y Wylfa.
Pentref ym mhlwyf Llanfrothen ym Meirionydd yw Croesor - cartref Bob Owen y llyfrbryf.
Ym mhlwyf Llechylched nid yw'r afon odid fyth yn cad ei galw'n Afon Caradog.
Ym mhlwyf Coedana y mae'r ffrydiau sy'n ei bwydo, ac y mae ei llednentydd yn traenio cryn dipyn o dir Canol Môn.
Ni wyddom y nesaf peth i ddim am Lewis Glyn Cothi heblaw'r hyn y gellir ei gasglu o'i gerddi, ond awgryma'i enw mai fforest Glyn Cothi ym mhlwyf Llanybydder yng ngogledd sir Gaerfyrddin oedd ei ardal enedigol.