I wyddonwyr ym Mhrifysgol Tokyo y priodolir y darganfyddiad hwn.
Ar hyn o bryd, ym Mhrifysgol Llundain, cynhelir arbrofion ar lygod i geisio darganfod a oes wirionedd yn yr honiad.
Nes i Sajudis ddechrau ymgyrchu am ryddid, doedd hi ddim wedi ymwneud â gwleidyddiaeth; economegydd amaethyddol oedd hi a fu'n astudio ym Mhrifysgol Manceinion.
Sylweddoli mai gorfod brwydro yn erbyn amgylchiadau a rhagfarnau fel hyn yr oedd gwirfoddolwr fel Paul, a oedd yn Somalia am chwe mis cyn dechrau ar gwrs gradd yn mhrifysgol Lerpwl.
Ym Mhrifysgol Bangor y bu ers dros ddeg mlynedd ar hugain.
Ymddangosodd newid sylweddol o ran agwedd tuag at longddrylliadau hynafol gyda gwaith Bass a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Pennsylvania.
Ceri Davies, darllenydd yn Adran y Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, biau'r geiriau a hynny mewn cyfrol am John Davies o Fallwyd yn y gyfres Llên y Llenor.
Nid stori o'r bwthyn i'r palas, efallai, ond fe ddringodd Henry Jones o stol gweithdy crydd i gadair athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow.
Yn enedigol o Ohio, Connettticut, mae bellach yn gwneud Astudiaethau Celtaidd ym mhrifysgol Harvard - ac yn darlithio'n rhan amser yn y Gymraeg.
Llongyfarchiadau i Dawn Marie Naylor o Langoed ar ennill gradd MA mewn Hanes Masnach Rhyngwladol ym Mhrifysgol Reading.
Ym Mhrifysgol Warsaw yn y saithdegau cafwyd fod pobl oedd yn yfed sudd betys amrwd yn feunyddiol yn dioddef llai na'r cyffredin.
Dyna'r gwir heddiw am y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru; a Chymru Gymraeg a'i creodd hi, ei chynnal hi, dotio ar ei graddau anrhydeddus hi, a bodloni mai gradd diraddiad y Gymraeg yw diploma ei hanrhydedd hi.
Newydd orffen cwrs yn y 'Tech' ym Mangor y mae Becca ac yn gobeithio dechrau cwrs 'astudiaethau cymdeithasol' ym Mhrifysgol Manceinion yn yr Hydref.
Ond bu wyth ym Mhrifysgol gymharol newydd Llundain (neu o leiaf yn gwneud ei chyrsiau).
Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.
Roedd brawd iddo hefyd yn Athro mewn Anatomeg naill ai ym Mhrifysgol Leeds neu Newcastle.
Ganed y Dr John Davies yn y Rhondda, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Nhreorci, ym Mwlchllan, Tregaron, ac wedyn ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt.
Wrth gymharu rhestrau o eiriau yn yr ieithoedd hyn sylwyd ar y cyfatebiaethau seinegol rhyngddynt a lluniwyd 'deddfau seinegol', sef fformiwlâu i ddynodi'r cyfatebiaethau hyn, ac aeth corff o ysgolheigion ym Mhrifysgol Leipzig yr Junggrammatiker, 'y gramadegwyr newydd', i gredu bod y 'deddfau' hyn yn ddieithriad, bod eglurhad i bob cyfuniad ac nad damweiniol oeddynt.