Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mhrofiad

mhrofiad

"Daeth fy mhrofiad o wneud colur yn handi, achos oedd angen gwneud y llygaid yn drawiadol, felly oedd e'n neis gallu gwneud hynny." Tra'n gwneud Twm Sion Cati gyda Chwmni Whare Teg, fe ddaeth i gysylltiad â Catrin Fychan - Gina yn Pobol y Cwm.

Ond o fy mhrofiad anffodus i o feddygon ac ysbytai does a wnelo lliw eu croen fawr ddim ag anallu rhai meddygon i gyfathrebu a defnyddio gair yr adroddiadau diweddar.

Y tu cefn i'r straeon doniol, mae yna ochr arall ac, wrth fynd i ffilmio mewn gwersyll haf i blant mwya' addawol y wlad, y cefais i fy mhrofiad mwya' ysgytwol yn Libya.

Wrth i ni ffilmio yn un o'r gwersylloedd hyn, cefais fy mhrofiad newyddiadurol mwyaf dadlennol yn Libya.

'Fy mhrofiad cyfan i o'r lle sy'n bwysig i mi, yn hytrach na sut roedd e'n edrych ar ddiwrnod arbennig.

Elfen arall ym mhrofiad a myfyrdod y nofelydd na chafodd lawer o sylw yw ei deimladau ynghylch merched fel y'u datguddir yng nghymeriadaeth y nofelau - mewn gair, rhywioldeb Daniel Owen, Ar yr olwg gyntaf, pwnc go anaddawol yw hwn.

Yn Ciwba y cefais fy mhrofiad cynta' o'r minder, y gwarchodwr hwnnw sy'n rhan anorfod o ffilmio mewn amryw o wledydd tramor.

Ym mhrofiad E.

Y fframwaith greiddiol yw'r ymwneud a'r defnydd o iaith mewn dulliau dysgu ond bydd gwahaniaethau ym mhrofiad yr athrawon ac yn eu gallu i drin a thrafod y Gymraeg yn hyderus.

a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.

Symbol yw'r Gors o'r elfen ym mhrofiad dyn na ellir ei hosgoi, a'r gosb a ddaw yn sgil anonestrwydd.

(A bydded hysbys mai cyffredinoli ar bwys fy mhrofiad bach fy hun yr ydwyf i dim ond siarad dros y pechadur hwn yn unig yr ydwyf, dalier sylw.