Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mhrydain

mhrydain

Ond rhaid rhoi'r clod i ddinas arall ymhell tu allan i Gymru am greu y Cloc Blodau cynta oll a welwyd erioed ym Mhrydain.

Penderfynodd y cwmni ddewis Nantgarw er iddyn nhw ystyried nifer o safloedd eraill ym Mhrydain.

Miliwn yn ddi-waith ym Mhrydain.

Arthur, ebr ef, oedd yr olaf o'r Rhufeiniaid ym Mhrydain, neu o leiaf o'r Brythoniaid i ddeall syniadau Rhufeinig ac i'w defnyddio er budd i'w bobl ei hun.

Mae Ewrop wedi rhoi hawl i dyfu'r corn GM a gall felly ei dyfu fel arbrawf yn unrhyw le ym Mhrydain.

Mae yna filiwn o bobol wedi archebu tocynnau o flaen llaw, meddai, ac mae yna fwy o bobol yn fodlon ar beth sydd i'w weld yn y Dôm nac yn unrhyw atyniad arall ym Mhrydain.

Dyma'r ardd fotaneg fawr gynta i'w chreu ym Mhrydain ers dros ddwy ganrif.

'Roedd Thomas Williams, Olgra yn gapten ar long o'r enw Maritime a phan fyddai'r llong mewn porthladd ym Mhrydain arferai Mrs Williams a'r ddwy ferch fach, Eluned a May, ymuno ag ef a byddai Mam yn cael mynd efo nhw.

Gyda grwpiau fel Manic Street Preachers a Stereophonics yn derbyn canmoliaeth o bob twll a chornel - ac nid ym Mhrydain yn unig - mae'r rhai hynny a oedd yn fwy na pharod i feirniadu bellach wedi gwirioni ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig.

Dyna sydd wedi digwydd yn America a dyna a ddigwydd ym Mhrydain hefyd.

Ffliw Hong Kong yn lladd 2,850 ym Mhrydain mewn wythnos.

Yn ystod ei thair wythnos ym Mhrydain bu Justine Merritt yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus yn Aberystwyth a Bangor.

Prawf o effaith y clasur hwn yw nad oes dorlan afon sewin ym Mhrydain lle na chlywir jargon Falkus

Roedd Y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi honni nad oedd y Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol yn berthnasol i'r Gyrcas gan eu bod yn ymuno âr fyddin ac yn ei gadael hi yn Nepal nid ym Mhrydain.

Ym Mhrydain gwelwyd y gyflwynwraig deledu, Donna, yn gwisgo Crys T gydag enw Gail Porter arno.

Ac yn ôl y sgrifenwyr gwleidyddol, un peth sydd wedi gwneud argraff fawr ar y Blaid Llafur ym Mhrydain yw'r defnydd eang o ebost fel arf i berswadio pleidleiswyr.

Dechreuodd Jason garu gyda Rhian ac yn fuan iawn bu'n rhaid iddo gyfadde ei fod wedi priodi merch o Wlad Pwyl er mwyn iddi hi gael pasport i aros ym Mhrydain.

'Roedd tlodi enbyd ym Mhrydain o hyd ac 'roedd llawer o waith i'w wneud cyn y gellid taflu ymaith yr hen gadwyni a rhodio'n rhydd.

Gan fod Lerpwl yn dal i fod yn borthladd eithaf pwysig, drwy'r clwb 'She' y darganfuwyd y claf cyntaf ym Mhrydain.

Agor rhan o'r M4, y draffordd drefol gyntaf ym Mhrydain, i osgoi Port Talbot.

Pob plentyn ysgol ym Mhrydain i gael mwgwd nwy.

Gofynnodd ei thad a yw pawb ym Mhrydain yn gwrthod bwyta cig moch gan feddwl mai gwlad Fwslwmaidd yw hi.

Abertawe yn trechu'r Crysau Duon, y clwb cyntaf ym Mhrydain i wneud hynny.

Y drefn ym Mhrydain yw ceisio rhyw le canol rhwng y ddau safbwynt - cyfuno'r awydd naturiol i gosbi a dial a'r duedd llai greddfol i ddiwygio.

Ym Mhrydain gwnaed camau ymlaen ond ar raddfa lai (gweler gwaith megis yr hyn a wnaeth McKee, Martin a Wignal) ond tueddent i adlewyrchu y problemau a godai yn nyfroedd Prydain sydd fel arfer yn oer eu tymheredd ac yn anodd gweld ynddynt.

Mae'r rhai sydd mewn gwaith, fodd bynnag yn gynhyrchiol iawn, ac mae'r Gwerth Gros y person yn y diwydiant cynhyrchu gyda'r uchaf ym Mhrydain.

Dyma oes y Siartwyr ym Mhrydain, a'r chwyldroadau yn Ffrainc ac Awstria.Dyma oes y gorthrwm ar ran y cyfoethog, yr ymosodiad gan berchenogion tir ar eu tenantiaid.

Cyfartaledd cyflogau wythnosol gros (œ) fel canran o'r cyfartaledd ym Mhrydain.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Pob plentyn ysgol ym Mhrydain i gael mwgwd nwy.

Tawelwch sydd wedi bod ym Mhrydain ers i'r grwp ganslou taith Brydeinig llynedd, ac ers hynny, mae Cerys wedi wynebu beirniadaeth yn y wasg am ei sylwadau am gyffuriau, a chyhuddiadau o ymddygiad rhagrithiol - yn bloeddio canu am ba mor ddi-enaid yw bywyd Llundain, ond eton cael ei sbotion gadael y Met Bar bondigrybwyll gydag amrywiaeth o ser.

Terfysgoedd mewn trefi ym Mhrydain yn lledaenu o Gaerdydd.

Nid oedd Ymneilltuwyr ffyrnicach, anhyblycach ym Mhrydain oll nag Ymneilltuwyr Lleyn...

Arolwg yn dangos fod dynion ym Mhrydain yn ennill cyflog o £13-2-11 9 (£13.15 ) ar gyfartaledd.

Ym Mhrydain heddiw prin iawn yw unrhyw ddefnydd arall o'r llysieuyn gwerthfawr hwn.

Dwi ddim yn meddwl bod yna un tîm ym Mhrydain fuasen medru curo nhw ar hyn o bryd.

Daeth Sera i ddeall mai dim ond tlodi af truenus a fedrau yrru pobl i ymadael â'r ynys euddwydiol honno i geisio bywyd newydd ym Mhrydain.

Gyda'r cynnydd mewn nofio tanddwr fel adloniant ym Mhrydain darganfuwyd llawer o drysorau ar hap ac mae mwy o hyn yn debyg o ddigwydd.

Cyhoeddodd amryw o bapurau o'i waith ei hun yn y Philosophical Transactions of the Royal Society, cylchgrawn sy'n dal yn fyw heddiw a'r cylchgrawn gwyddonol uchaf ei barch ym Mhrydain.

Beth bynnag, dyna pam yr oedd Garmon a Bleiddian ym Mhrydain - i ymladd Pelagiaeth nid Pictiaid.

ar ôl gweld sefydlu cwmni llwyddiannus yn yr unol daleithiau, trodd david hughes ei olygon tuag ewrop, gan ddechrau yn lloegr gyda'r english telephone company, a oedd yn rheoli'r sefyllfa delegraffig ym mhrydain fawr.

Cadwai olwg ar y datblygiadau diweddaraf ym Mhrydain ac Ewrop trwy gylchgrawn The Studio a thrwy bicio i Lundain yn aml i weld arddangosfeydd.

wel, llywodraeth ddemocrataidd fel ym mhrydain, " atebodd y ferch.

Fe wnaeth Siôn y pwynt fod Cyfle o flaen y gad ym Mhrydain yn nulliau hyfforddi aseswyr Skillset.

Golyga hyn mai gan y Llyfrgell Genedlaethol y mae'r archif fwyaf ym Mhrydain o bapurau ar wersyll Comin Greenham.

Ac wele, tua'r adeg yr oedd y Pabydd Polydore Vergil yn ymosod ar Sieffre am balu ei chwedlau celwyddog am wreiddiau'r Brytaniaid, yr oedd rhai o flaenoriaid y Brotestaniaeth wrth-Rufeinig a fabwysiadwyd gan y Saeson yn bwrw iddi i ail-lunio hen hanes yr ynys hon, yn y fath fodd ag i ddangos fod yma, ym Mhrydain Fore, eglwys apostolaidd bur, eglwys gyn-babaidd ddi-lwgr.

Agor twnel Brynglas ar yr M4 ger Casnewydd, y twnel traffordd cyntaf ym Mhrydain.

Mae semenu artiffisial wedi cael ei ddefnyddio gyda gwartheg ym Mhrydain ers rhai blynyddoedd ac mae ffermwyr yn gyfarwydd iawn a'r dechneg yma.

Newton ym Mhrydain a Leibnitz yn Ffrainc oedd tu ol i'r datblygiadau, ac yr oedd dadlau ffyrnig rhwng y ddau.

Mae traddodiad gwyddonol cryf i Glwb Swb-Acwa Prydain, ac mae'r nofiwr tanddwr ym Mhrydain yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu adnoddau tanddwr.

Dywedodd Mike Phillips, Rheolwr Microsoft Office ym Mhrydain: Mae yna gydweithio wedi bod i edrych ar sut i ddatblygu'r gwasnaeth.

Astudiaeth o holl ymgyrchoedd milwrol Cesar yn erbyn y Celtiaid ym Mhrydain, Ffrainc a'r Almaen.

Pan yw achwynwr yn ennill iawndal mewn llys ym Mhrydain, ni chaniateir iddo siario'r iawndal hwnnw gyda'i gyfreithiwr.

Arweinlyfr i'r unig Barc Cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain.

Ym Mhrydain 'roedd prinder pethau fel sebon, llafnau eillio, ac 'roedd rhai merched yn defnyddio betys cochion fel minlliw, a brownin grefi ar eu coesau yn lle sanau.

Ym Mhrydain mae yna 11m o bensiynwyr ac mae Mr Hague yn gobeithio y byddan nhw'n cefnogi ei blaid.

Arwyddocaol iawn hefyd, o safbwynt gweithgaredd gwleidyddol ym Mhrydain, yw'r hyn a ychwanegodd yn y paragraff nesaf: ...

Darlledwyd Before I Say Goodbye, hanes teimladwy Ruth Picardie yn ystod ei dyddiau olaf cyn iddi farw o ganser, ar BBC Radio 4, yn ogystal â Suffer Little Children, ar yr achos cam-drin plant yng Ngogledd Cymru, a Where Have All The Flowers Gone, am arddwyr ym Mhrydain.

Nid bod y canllawiau hyn yn rhai y gellir eu cymhwyso ym Mhrydain.

Clywir amdano ym Mhrydain yn y Canol Oesoedd ac yn yr ail ganrif ar bymtheg roedd yn achos marwolaeth i wyth o bob deg o blant dan bum mlwydd oed mewn llawer cymdogaeth.

Mae hi'n rhan o dreftadaeth ddiwylliannol pob un yng Nghymru, yn wir ym Mhrydain, yn Ewrop a thu hwnt.

Mae'r rhan hon o Gymru hefyd yn dibynnuw dipyn mwy ar y sector wasanaethol am waith o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae graddfa'r gweithgaredd yn y sector gynhyrchu yng Ngwynedd gyda'r isaf ym Mhrydain.

Yn unigryw i'r Ysgol, o gymharu ag adrannau gwyddor môr eraill ym Mhrydain, mae llong i astudio'r môr, sef y Prince Madog.

Fe ddywedodd eu harweinydd ei fod yntau hefyd wedi gweld ysbryd ym Mhrydain.

Mae enw da y coleg am gynhyrchu sêr chwaraeon yn un y byddai unrhyw goleg ym Mhrydain ymfalchio ynddo.

am gyflawni trosedd gyffelyb, dedfrydid yr euog i gyfnod o alltudiaeth am saith mlynedd, tra byddai'r troseddwr a ddedfrydid gynt i dymor o benyd wasanaeth, yn debygol o gael ei gaethiwo mewn carchar ym Mhrydain.

Yn eu hadroddiad Her Bio-amrywiaeth rhaglen ar gyfer ymgyrch gadwriaethol ym Mhrydain ceir rhybudd bod amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt a'u cynefin dan fygythiad.

Ac enw Lladin, ebr Collingwood, oedd Arthur, yn tarddu o Artorius, enw hysbys ym Mhrydain Rufeinig.

lluniwyd yr adroddiad gan arbenigwyr o Cadwraeth gloy%nnod Byw, Cyfeillion y Ddaear, Plantlife, Y Gymdeithas frenhinol er Partneriaeth Ymddiriedolaethau Cadwraeth a Bywyd Gwyllt Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a Chronfa Natur y Byd, Nature sydd, gyda'i gilydd yn cynrychioli oddeutu dwy filiwn o bobl ym Mhrydain yn unig.

Ac nid tiriogaeth y byd Celtaidd ym Mhrydain ac Iwerddon gynt sydd bwysicaf yn yr hanes, ond tiriogaeth a libart y seici.

Mae'r Samariaid eisoes yn derbyn dros 15,000 o negeseuon e-bost ym Mhrydain - nifer helaeth ohonyn nhw gan rai sy'n ystyried lladd eu hunain.

Blackwell's Bookshops, yn Rhydychen: Un o'r cyflenwyr llyfrau academaidd ac ysgolheigaidd mwyaf adnabyddus ym Mhrydain.

Yr heddlu i gyd yn gyfeillgar iawn ac yn holi llawer am gostau astudio ym Mhrydain er mwyn eu plant.

Gellir ei gweld ar sianel Setanta, sianel chwaraeon Celtaidd sy'n darlledu ym Mhrydain ac yn Ewrop.

Adeiladwyd llawer o gartrefi modern, ac y mae cyfleusterau siopa a hamddena'r dref ymhlith y goreuon ym Mhrydain.

Hon oedd yr ardal gyntaf o'i bath ym Mhrydain.

gyda llaw, ydych chi wedi cael trafferth gyda'r heddlu o'r blaen, yma yn sbaen neu gartref ym mhrydain?