Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

milgwn

milgwn

'Stalwm ar ddiwrnod trip yr Ysgolion Sul fe fyddai y banciau yn brysur oherwydd y byddai y trysoryddion yn codi arian gwario i'r plant, a hynny ar fore Sadwrn, ac yna yr arian yn cael eu rhannu yn y 'waiting room' neu ar y platform cyn i'r 'Special' ddod i mewn, a phawb yn mynd fel milgwn am y 'coaches' a neb (bron) ar ol yn y pentref y diwrnod hwnnw nes y deuai'r 'Special' yn ol.

Ym myd rasio milgwn mae'n gred yng nghymoedd y de fod anifail â marc gwyn ar ei dalcen yn siŵr o fod yn anifail lwcus iawn i'w berchennog.

Dim ond un peth sydd o'i blaid o : mae hwyliau da iawn ar Dad bob tro y daw adref ar ôl bod yn y rasys milgwn.

Pan oeddwn i'n grwt ar Gefnbrynbrain ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd o leiaf dri gŵr yn y pentref a gadwai filgwn, a Dai Milgwn oedd ein henw ar un ohonynt.