Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

min

min

Peth da, a digemeg hefyd, fyddai treulio orig min nos yn chwistrellu dwr glân ar y coed a'r llwyni ffrwythau newydd eu plannu.

Dywedid hefyd fod y cyfarfodydd gweddi min nos, a'r gyfathrach a ddilynai wrth ddychwelyd adref, yn ei wneuthur yn waeth.

Rhaglenni Trwy'r Min Nos

Etyb Iorwerth gan wrthgyhuddo: deil fod Sion yn torri gwyliau (yr hyn nis gwnai ef), ei fod yn gelwyddog ac yn canu'n unig er tal: 'Ni thry'r min eithr er mwnai'.

Wedi darfod tyllu, byddai'r tyllwr yn mynd â'i ebillion oedd wedi colli min erbyn hyn i'r efail i'w hogi, felly gwelwch fod angen gof yn y chwarel, a llawer yw'r helynt sydd wedi bod yn yr efail rhwng y gof a'r gweithwyr, fel y cawn sôn ymhellach ymlaen.

Treuliais sawl min nos yn 'Y Wern', ei gartref, ac yn ddieithriad trafod rhyw wedd neu'i gilydd ar wyddoniaeth, yn arbennig ffiseg ac astroffiseg, a wnaem.

Mwyn a melys min Malen, Môr o jam yw Meri Jane!

Y peth sy'n rhoi min ar y genadwri Gristionogol mewn unrhyw oes yw'r argyhoeddiad fod ei derbyn neu ei gwrthod yn fater o dragwyddol bwys.

I ddynion tebyg iddo ef, yn enwedig pan fyddai dadl economaidd iwtilitaraidd gref drosti, a'r cof am derfysgoedd diweddar yn rhoi min ac awch arni, roedd addysg yn anad dim yn fodd i gael dylanwad ar y dosbarth gweithiol.

Fe ges fenthyg cyllell gan Nedi Pen-dre Hi naddiff fel nedde o chwith ac o dde Rhaid gwasgu'n bur gethin cyn torro bren crin Ni waeth iddi lawer y cefen na'r min.

Ni allai ddioddef ffyliaid a gallai roi min ar ei bensil a'i dafod.

Daeth Enoc heibio un min nos yn wên i gyd.

Chwarelwr oedd 'Nhad yn ffermio ben bore, min nos a thros y Sul.

Mae'r Cyngor yn falch bod talent cynhyrchu newydd wedi ei ddenu i'r sebon dyddiol Pobol y Cwm gan fod y rhaglen honno hefyd yn wynebu cystadleuaeth fwy ffyrnig o'r rhwydwaith am ei chynulleidfa min nos.

Fe'i gwelais gyntaf un min nos braf ym mis Mehefin ar dir sych uwch clogwyni'r môr ym mhen dwyreiniol yr ynys.

Rhaid crynhoi'r genadwri a rhoi min arni cyn symud ymlaen.

Yr oedd yn gymeriad lliwgar, yn heddychwr y rhoddwyd min ar ei dystiolaeth gan y clwyf a ddioddefodd fel milwr yn y brwydrau yn Nyffryn Somme yn ystod Rhyfel Byd I.

mae sbloet o grio, meddai, yn para tua chwe munud ac yn digwydd, ran amlaf, rhwng saith a deg yn ystod y min nos.

Ni allai holl bersawrau'r Dwyrain a holl gyffuriau a balmau melys y goedwig ladd yr aroglau a ddringai o bryd i'w gilydd dros ei min pan gusanent.