Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

miniog

miniog

Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.

Roedd gweddill ei wyneb yn fasg difywyd, gyda'r gwefusau di-waed, y trwyn miniog, yr arleisiau wedi pantio a gwaelodion y clustiau yn troi tuag allan sydd yn arwyddion o farwolaeth yn agosau.

Clywyd pregethu huawdl, teimladol, miniog ac apelgar gan Biwritaiaid fel William Wroth, Walter Cradoc, Vavasor Powell a Stephen Hughes.

Dyma esgus da i bawb roi'r gorau i weithio ac er i'r dyn Indiaidd ysgwyd ei ddwrn a dweud mewn llais miniog, '...

Neshaodd draw tuag ataf a gwenodd gyda'i cheg ac roedd ganddi ddannedd bychan, miniog, rheibus mor wyn â bywyn oren newydd ei blicio ac mor ddisglair â phorslen.

Roeddet yn ofni y byddai golau dy ffagl yn tynnu sylw'r milwyr, ond fe fyddai'r golau wedi dy alluogi i weld y cleddyf miniog a oedd yn hongian o'r nenfwd.

Yr arwyddion hyn a'm llanwodd â gobaith miniog a sydyn.

Yna, clywsant eiriau miniog a phroffwydol o wefusau Asqui/ th: ...

Hanes plant ar bob planed ydi hynna, yntê?' chwarddodd gan ddangos rhes o ddannedd mân, miniog.

Ar yr adeg eithriadol o bwysig hon yn hanes y Blaid cafodd gymorth ac arweiniad amhrisiadwy Saunders Lewis a'i feddwl praff a miniog (hyn eto'n rhagluniaethol).

Dim defaid yn unlle a'r caeau porthiant fel ynysoedd gwyrddlas wedi eu hamgylchynu gan greigiau miniog fel glasiers mewn môr o binwydd tywyll.

Ymegyr golygfa ysblennydd wrth i ni ddod i olwg y llyn, yn goron o gopa%on a chribau miniog.

Gan eu bod yn gorfod cerdded dros y mynydd yn ôl a blaen o'u gwaith, a'r efail mewn rhan is o'r chwarel, yn weddol agos i'm cartre', dyma nhw'n gofyn i mi fynd â'u hoffer di-fin nhw i lawr at y gof i'w hogi, a dod â'r rhai miniog i fyny'n ôl.

Cymharwyd yr Engadin Uchaf weithiau a Sweden - Sweden tan haul deheuol a than goron uchel o fynyddoedd ia llachar, miniog - cadwyn Bernina, yn anad yr un.

Dannedd miniog y llygoden yw unig allwedd i'r gist, a'r wobr yw'r gneuen werthchweil yng nghnewyllyn y garreg.