Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

miri

miri

Pan fydde'r bechgyn ifenc yn galw heibio, doedd y croeso ddim mor gynnes a chynt, y gusan ddim mor agored, a'r miri ar goll, ac roedd rhai'n mynd mor bell a gweud fod rhan o fantell dieithrwch Madog wedi disgyn ar 'i sgwydde hi.

I wneud iawn am y miri roedd yn cynnig dau docyn iddyn nhw fynd i gyngerdd yn Neuadd Dewi Sant y nos Wener honno, ac yn wir roedden nhw yn yn amlen.

Miri Awst

Yng nghanol miri'r plant fe glywid chwerthin pryfoclyd Gwenhwyfar.

Llanwodd y dafarn a chwyddodd y miri.

Ond efe a ystyriodd yn ei galon y byddai hwyl a miri mawr ymhlith gweithwyr yr adeilad hwnnw pe gwyddai pawb am ei gwymp.

Diolch i'r miri efo'r hogan wirion yna gollodd ei chot law, roedden nhw chwarter awr yn hwyr yn cychwyn o Bwllheli ac roedd y ddamwain yna ger Llanllyfni wedi achosi iddo golli mwy o amser.

Byddai'r miri a'r rhialtwch ar ei anterth.

Roedd Dawnswyr Nantgarw newydd ennill y wobr gynta' ac yng nghanol miri'r dathlu fe ddaeth un o ferched tîm Illa de Vermadon o Bimisalen, Mallorca ataf i'n llongyfarch.

Ymhlith y snaps o'r plant yn fabis, a'i phriodas a miri dyddiau coleg roedd ambell hen lun ysgol.

Roedd y miri ar ei anterth pan daflwyd y drws yn agored yn sydyn a daeth hen grwydryn garw ei olwg, yn gwisgo rhyw garpiau blêr, i mewn i'r dafarn.