Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

miriam

miriam

Wrth ddarllen y drydedd gyfrol o sgyrsiau Dros fy Sbectol John Roberts Williams i'w hadolgyu ar gyfer y Wawr, chwarterolyn Merched y Wawr, deuthum ar draws hanes merch fach o'r enw Miriam, o Frynengan, Eifionydd.

Wrth ddarllen am Miriam a meddwl amdani fe ddaeth i'm cof fy mhrofiadau i fel yr unig blentyn yn siarad Cymraeg mewn ysgol gyfan o blant dan saith.

'Ches i rioed gi gan Miriam, er i mi grefu arni am un.

Canys mwy trist na thristwch oedd deall mai Miriam oedd yr unig blentyn punp oed a siaradai gymraeg o blith naw o blant a dderbyniwyd i ysgol Llangybi y flwyddyn honno wedi gwyliau'r haf, a hynny yn un o gadarnleoedd 'tybiedig' yr iaith.