Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

misoedd

misoedd

Er bod y grwp yn bod ers 1998, yn ystod y misoedd diwethaf y setlodd ar ei ffurf bresennol.

Digon diffaeth a di-faeth yw llawer o ffrwythau llachar y misoedd llwm.

Mae'r cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf - gan gynnwys rhyddhau casetiau gan Datblygu, Diffiniad, Aros Mae a Steve Eaves, yn ogystal â chasgliad amlgyfrannog i ddathlu'r pump oed - yn awgrymu y bydd y cwmni hwn yn parhau â'u gwaith da yn creu stabal gynhwysfawr o artistiaid mwyaf blaengar y byd roc Cymraeg.

Cymaint oedd ein pryder wedi misoedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o'n hymdrechion fel ein bod wedi gorfod galw am gymorth arbennig.

Ie, pysgota penhwyaid a physgota'r lasgangen sydd yn y parsel yma, nid eu bachu'n ddamweiniol achlysurol ym misoedd yr haf pan ar ôl prae arall - ond yn fwriadol systematig pan y maent yn anterth eu nerth.

Ond nid yw popeth yn farw, fe heidia'r adar i'w brigau i chwilio am yr wyau a ddodwywyd gan y trychfilod a fu'n byw yno yn ystod misoedd yr haf.

er enghraifft y tro hwnnw y penderfynodd newid enwau'r misoedd.

Y Mwyafrif ydi sengl gyntaf Pep Le Pew, er bod Gang Bangor wedi bod yn chwarae eu cerddoriaeth yn gyson ers rhai misoedd.

gallaf eich clywed yn ei ddweud: dyma chi'n dychwelyd i'r testun o raddio, a buoch wrthi rai misoedd yn ôl ar y tudalennau hyn mewn cyfres o dair ysgrif yn trafod yr union destun hwnnw.

Wedi misoedd o baratoi llanwyd y capel i'r ymylon a chafwyd hwyl ysgubol arni.

yma, ym misoedd yr haf, byddai rhibyn o raean yn ymestyn o ganol yr afon, ond yn awr yr oedd cryn ddyfnder o ddŵr ^ r yn llyfu erchwyn lleithiog y lan, a rhai o ganghennau 'r helyg o boptu bron, bron yn cusanu wyneb yr afon.

Yn ystod y misoedd diwetha', mae wedi dweud pethau am aelodau fel Peter Hain ac Elfyn Llwyd a fyddai'n enllib y tu allan i furiau siambr Tŷ'r Cyffredin.

Dros y misoedd diwethaf bu newid wrth y llyw, yn dilyn ymddeoliad Geraint Talfan Davies.

Teimlai nad oedd yntau, chwaith, wedi cael siwrnai esmwyth drwy'r misoedd diweddar.

Roedd mudiadau dyngarol wedi bod yn rhybuddio ers misoedd fod y sefyllfa yn y wlad fechan yn dirwyio'n gyflym ac y byddai'r boblogaeth o saith miliwn yn wynebu newyn difa%ol os na fyddai'r gymuned ryngwladol yn estyn cymorth yn fuan.

Cofiai Joe gryn drigain o chwareuwyr gwyddbwyll a ddeuai i wylio neu i chwarae wrth naw neu ddeg bwrdd, fore, pnawn a nos yn ystod misoedd y gaeaf.

Yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill yn unig, cafodd chwe chant o blant eu claddu yma - deg bob diwrnod.

Mi fyddan nhw'n pwysleisio fod gwerthiant dur i wledydd tramor wedi gostwng 10% yn ystod y misoedd diwetha - a hynny oherwydd bod gwerth y bunt yn rhy uchel.

I raddau helaeth, er hynny, roedd ymweliad Mrs Chalker, a'r holl ymdrechion a wnaed ar ran y Cwrdiaid am rai misoedd y llynedd yn dystiolaeth fwy amlwg nag a brofais i erioed o rym y wasg.

'Mae pobol Roy Jones wedi siarad am yr ornest dros y misoedd.

Mae yna sawl un sydd o'r farn fod hogia Bangor wedi gwella'n aruthrol yn ystod y misoedd diwethaf ac felly mi edrychwn ni ymlaen rwan at gael clywed eu sesiwn ar raglenni Gang Bangor yn y dyfodol agos gan mai dyna oedd y wobr yr oedd grwpiau colegau Cymru yn cystadlu amdani.

Proses a dderbyniem fel cwrs bywyd ymhen y blynyddoedd, ond nid nawr, ddim ym misoedd cyntaf ein cariad pan ddylem ddal i fod yn llawn o'r rhyfeddod hwnnw a lanwodd y dyddiau oddi ar i ni gwrdd.

Mae pob ffrwyth sydd yn aros ar frigau'r llwyn yn codi ei werth y tu hwnt i reswm gyda threigl y misoedd llwm.

Rai misoedd yn ôl, soniais am y nifer mawr (tua phum mil neu well) o droseddau gwahanol y gall y modurwr druan eu cyflawni â'i gar þ sawl un heb iddo ef ei hun fod yn ymwybodol ohono ar y pryd.

Yn y misoedd yma mae pawb yn tueddu i gymryd eu gwyliau ac/neu fyw yn eu hail dy ar lan y môr yn ymyl Rawson, er mwyn cael seibiant o'r gwres llethol.

Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau gall gymryd misoedd i'r Arlywydd berswadio'r Gyngres i dderbyn ei gynigion ynglŷn â'r Gyllideb.

Roedd Ifor yn dal i ddisgw'l iddo fo ddwad yn ei ôl ers misoedd!

Ond wrth i'r misoedd fynd heibio fe ddaeth hi i arfer a'i weld yn mynd heibio i iet y clos.

'Ydw i wedi bod yn biwis iawn y misoedd diwetha 'ma, Robin?'

Yn ystod y misoedd nesaf bydd y nifer o fanciau papur yn treblu a bydd y nifer o fanciau caniau yn dyblu.

Llifodd Cariad Duw ataf yn ddi-baid yn ystod misoedd fy ngalar.

Treuliwyd misoedd yn datrys y gwahanol broblemau - cyllid, argraffu, golygu, cyfraniadau.

Agorwyd lladd-dy newydd yn Llanrwst yn ystod misoedd yr haf.

Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.

Ac mae iaith y Gymdeithas yn dychryn ein targedau; yn dychryn y bobl sydd ers rhai misoedd yn ffurfio eu llywodraeth fach eu hunain i gynnal y status quo.

Mae'r diolch yn bennaf i ffrwyth misoedd o waith rhwng Adran Bolisi Bwrdd yr Iaith a Bill Hicks o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, meddai.

Daw y penhwyaden gaiff ei fachu ym misoedd yr haf i'r rhwyd fel rhyw sach gwlyb - dim cwffio na llawer o wrthwynebiad yn perthyn iddo.

Y bwriad dros y misoedd nesaf yw agor y siop hon ar y we a fydd yn cynnwys ein holl gynnyrch.

Felly y sicrhawyd nifer calonogol iawn o dderbynwyr newydd - a minnau'n rhyw ddirgel hyderu, yn y misoedd wedyn, na fyddent yn darllen y papur yn rhy ofalus: fe ddaw'r rhesymau am hynny'n amlwg yn nes ymlaen.

Canlyniad creu'r gwagle oedd bod yn rhaid ei lenwi, ac yr oedd y deunydd ar gael yn hwylus yn yr hen fisitors annwyl yr oedd cymaint o drigolion y Pen wedi mynd i fyw i'r sied i wneud lle iddynt yn ystod misoedd yr haf er dechrau'r ganrif.

fel caneuon newydd, gan eu bod yn hen ffefrynnau ers rhai misoedd.

Y mae'n anodd credu nad oedd y canser, a oedd yn prysur gydio yn ei ymysgaroedd, hefyd wedi effeithio ar ei iechyd yn gyffredinol ac wedi pylu ei gyneddfau beirniadol dros y misoedd hyn.

Mae yna lawer o sôn wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf ynghylch cynlluniau Stereophonics i fod yn grwp mwy acwstig ei naws ac fe gadarnhawyd hynny i rhyw raddau pan benderfynodd Kelly Jones fynd ar daith acwstig o amgylch Lloegr … ac America wrth gwrs.

Wedi'r cyfan, mae'n amlwg fod carafan, fel unrhyw gerbyd arall yn colli rhagor o'i gwerth yn y misoedd cyntaf nag mewn unrhyw gyfnod ar ol hynny.

Dros y misoedd diwethaf, fodd bynnag, mae yna newidiadau mawr wedi bod ym myd y Gwacs, wrth i wahanol aelodau fynd a dod.

Yn ystod misoedd y gaeaf byddai Cyfarfod y Plant ar ein cyfer a chofiaf sôn am flaengarwch J.

Ers rhai misoedd bellach rydym wedi bod yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd bob nos Lun yn syth ar ôl ysgol, (ar wahân i ddwy wythnos pan anghofiodd Mr Hughes amdanom ni, a pheidio â dod.

Rai misoedd wedyn daeth yr Iacha%wr Carismatig, y Parchedig Peter Scothern, i ardal Llanbedr Pont Steffan i bregethu'r efengyl ac i iacha/ u cleifion.

Bu llu o ffermwyr ar drywydd Ap drwy gydol y misoedd hyn, ond teimlai Wil Dafis mai ef yn anad neb bellach oedd fwyaf o ddifri.

Holais ei hynt rai misoedd wedi hynny gan ddisgwyl clywed ei fod yn well.

Ond mae merch o'r ynys, Mared Lewis Roberts, wedi mentro draw yno gyda'i gþr, Dafydd, (Monwynsyn arall) i fyw am rai misoedd.

Yn ystod y misoedd diwethaf peintiodd y Gymdeithas nifer o sloganau ar eiddo'r Coleg - maent wedi bod yn pwyso ar y Coleg i gyhoeddi ei Gynllun Iaith sydd ddeunaw mis yn hwyr.

I ddweud y gwir wrthoch chi, Doctor Treharne, roeddwn i wedi bod yn poeni ers misoedd am y peth, ac fe es i mor bell â dweud hynny wrth Proffesor Dalton.

Ond oherwydd yr oedi cynyddol a ddioddefir gan fenywod sy'n disgwyl cael eu hail-gartrefu, mae nifer y plant sy'n gorfod treulio misoedd lawer - neu hyd yn oed flwyddyn a mwy - mewn lloches, yn cynyddu, yn ddi-os.

Mi fydda i'n ddeugain ymhen rhai misoedd ac yn cael ychydig ar y naw o ymarfer corff, i'r fath raddau fel fy mod i wedi dechrau cerdded milltir neu ddwy bob nos er mwyn ceisio cadw'n fwy heini.

Os bydd cnwd da o gnau un flwyddyn dywedir y gellir disgwyl llawer o fabanod y misoedd canlynol.

Rai misoedd yn ddiweddarach derbyniais lythyr oddi wrth famgu'r ferch yn dweud bod y meddygon wedi ei harchwilio'n ofalus a'u bod yn cytuno bod y salwch o'r diwedd wedi ymadael yn llwyr â'r corff.

Ei gyfarwyddiadau ers misoedd: cael gafael ar basport ffug, trefnu alibi am gyfnod fy absenoldeb a fuasai'n dal dþr, gadael trywydd ffug.

Does gan Fwrdd yr Iaith ddim stondin ar Faes yr Eisteddfod ac, ers misoedd, fe fuon nhw'n dawel iawn.

Wedi bwlch mor hir, credaf mai doeth ar ôl hirlwm felly yw bwrw golwg yn ôl dros y misoedd a'u digwyddiadau anghyffredin yn bennaf oherwydd y tywydd anhymorol gawsom yn hytrach na chyfyngu i un pwnc.

Anghofia' i fyth weld marines ifanc oedd newydd dreulio misoedd yn denu dirmyg y cymunedau cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu croesawu fel arwyr ar strydoedd Zacco a threfi eraill gogledd Irac.

Yn null gorau'r cwangos, mae wedi cymryd misoedd i osod patrwm o weithwyr yn eu lle.

Oherwydd yr oedi anochel mewn casglu a chrynhoi ystadegau, gall wythnosau onid misoedd fynd heibio cyn i'r llywodraeth sylweddoli bod pethau'n dechrau mynd o chwith, a bod angen iddi ymyrryd â chwrs yr economi.

Un bore, er enghraifft, darllenodd pobl Libya yn yr unig bapur newydd a ganiateir yn y wlad fod eu harweinydd wedi penderfynu newid enwau'r misoedd.

Dwi am drio 'ngora' i grafu dan groen y ddelwedd yn ystod y misoedd nesa'.

Medrai byddin o'r fath ddwyn y cyfan oddi arnynt - holl gynnyrch y misoedd.

Oedd roedd y Blaid yn bod yn yr ystyr fod iddi swyddogion, aelodau a'i bod wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i hybu ei pholisi%au, ond awgrymu y mae'r dystiolaeth am y misoedd a ddilynodd Pwllheli mai peth marw-anedig oedd y blaid, i bob golwg.

Recordiodd y grwp sesiwn acwstig i Gang Bangor rai misoedd yn ôl a chyn bo hir fe gawn ni fwynhau sesiwn stiwdio.

Y mae'r penwyr polisi%au, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r perygl hwn, ac wrth lunio polisi%au cyweiriol maent yn ceisio rhagweld yr hyn sy'n debyg o ddigwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod yn hytrach na hoelio eu sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y misoedd a aeth heibio.

Mae'r misoedd Ionawr, Chwefror a dechrau Mawrth yn cyd-daro â gwyliau'r haf.

Wedi misoedd o weini ar ynnau gwrth-awyrennau, ei waith yn awr oedd peintio darluniau ar waliau cantinau NAAFI Y mae'n debyg fod adran o'r corff hwn wedi mynd i Iwgoslafia'n ddiweddar.

Oddi ar i'r pyllau gau 'roedd y tipiau'n gornwydydd ar hyd y cymoedd, ac ymhen misoedd 'roedd cysgod un ohonynt, uwch pentref Aberfan, wedi ei daflu ar draws yr holl fyd.

A sut bynnag, dim ond ym misoedd olaf ei fywyd yr ymgysylltodd Penri â'r Ymwahanwyr ac ni ysgrifennodd ddim i esbonio egwyddorion Cynulleidfaoliaeth.

Beth bynnag am hynny, un peth sydd wedi dod yn amlwg dros y misoedd diwethaf yma yw i'r Hapus Heipio Henry gychwyn yn llawer rhy fuan.

Yng ngogledd Affrica fe gerdda'r newydd am grefftwr da neu ŵr hysbys dros fil o filltiroedd cyn rhwydded ag y gwna o gwm i gwm mewn gwledydd llai, a digwyddodd hyn, wrth i'r misoedd a'r blynyddoedd fynd heibio, i Hadad.

Felly yr aeth hi ymlaen drwy'r misoedd oer.

Ers rhai misoedd cyn cwrdd â Miss Derwent 'roeddwn i wedi bod yn llythyru â Chwmni Collins, a'i gael y cwmni mwyaf parod i sicrhau fod plant Cymru'n cael cyfieithiadau Cymraeg, a hynny heb ofidio am y golled ariannol a allai ddilyn y fenter, a heb ddisgwyl unrhyw elw, ac eithrio'r cyfle i ledaenu enw da'r Cwmni trwy Gymru.