Gallai argyhoeddi unrhyw Gymro fod Yr Ymofynnydd yn unigryw ac yn werth ei dderbyn a'i ddarllen, gan mai hwn oedd 'misolyn hynaf y genedl', heblaw'r ffaith mai hwn oedd yr unig bapur y gellid ei gyfrif yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur, ac yn hollol agored i bawb, heb erioed gau clo ei gloriau yn wyneb neb, boed Drindodwr, Undodwr, amheuwr neu anffyddiwr.
Y modd o weithredu a ddewiswyd ganddynt i'r gymdeithas oedd cyhoeddi misolyn, yn bennaf i ymgyrchu yn erbyn egwyddor yr eglwys wladol, ond hefyd i hybu achosion radicalaidd yn gyffredinol.
A thrwy gydol y flwyddyn 1971 bu erthyglau nerthol y misolyn Barn yn gefn mawr i'r frwydr hon gan Gymdeithas yr Iaith dros urddas dyn yng Nghymru.
Ym mlwyddyn cyhoeddi Enoc Huws traethodd rhyw ysgrifennwr dienw yn huawdl ar y testun 'Merched Cymru yn Lloegr a'u peryglon' ym misolyn Pan Jones Cwrs y Byd.
Eithr nid oedd cydymdeimlo â'r 'hen ŵr heb ei gôt' yn ddigon ac ni ddylid ymgysuro oherwydd bod Yr Eurgrawn, misolyn enwad llawer mwy, wedi cael ei 'ddiraddio i fod yn chwarterolyn'.
Hawddamor a chroeso cynnes i NENE, misolyn newydd y Rhos a'r cylch!
Gan fod Yr Ymofynnydd hefyd yn cyflawni swyddogaeth cylchgrawn hanes y mudiad, byddai bywgraffiad ambell arwr, fel Thomas Emlyn Thomas o Gribyn a Gwilym Marles, Llwyn, yn cael llenwi'r misolyn ac ni allai neb a ddarllenodd y rhain fethu â dilyn y thema ganolog a theimlo'r ergydion sylfaenol.