Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mlwyddyn

mlwyddyn

Fel y dywed Branwen Niclas, Cadeirydd cyfredol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y rhagymadrodd i raglen y Cyfarfod Cyffredinol, 'Ym mlwyddyn ola'r mileniwm gwelwn gyfle allweddol i Gymdeithas yr Iaith arwain newidiadau sylfaenol yng Nghymru ac mae agenda'r Cyfarfod Cyffredinol yn gosod seiliau ar gyfer hynny.

Dro arall y canfu+m i'r rhyfeddod prin yn ffurf oenig annhymig oedd achlysur ymweliad cerbydaid ohonom â Dolwar Fach, ym mlwyddyn dathlu daucanmlwyddiant geni Ann Griffiths, llynedd blwyddyn y gwres diddiwedd.

Daliodd Delme y cwpan yn uchel iawn ar Barc yr Arfau y prynhawn hwnnw o Ebrill a'r cwpan ar ei ffordd 'nôl i'r Strade ym mlwyddyn y dathlu.

Ym mlwyddyn cyhoeddi Enoc Huws traethodd rhyw ysgrifennwr dienw yn huawdl ar y testun 'Merched Cymru yn Lloegr a'u peryglon' ym misolyn Pan Jones Cwrs y Byd.

Crisialwyd yr holl gyffro anniddig hwn drwy'r byd yn y gerdd ' I'r Anniddig', un o gerddi'r dilyniant a enillodd y Goron i Dafydd Rowlands yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint ym mlwyddyn yr Arwisgo.

Hyd lannau rhynllyd Afon Daugava, roedd olion hen fawredd a dylanwad diwylliannau eraill ond, ym mlwyddyn gynta' rhyddid, roedd hi'n wlad dan warchae o'r tu mewn.