LLONGYFARCHIADAU i Hugh Williams, Pant yr Afallen ar ei lwyddiant ysgubol gyda'r Hwch Las a'r deg mochyn bach, heb anghofio wrth gwrs yr hwch ei hun a'r tad - er mai y cwbl a ymddangosodd am y creadur hwnnw oedd mai Duroc oedd ei 'fec' - neu ei fecwn hwyrach!
Merfyn Jones wrth fy nghroesawu yn dweud wrtho i am ofalu beth fyddwn i'n dweud ar adegau, 'Oherwydd mae'r lle 'ma fel perfedd mochyn' meddai fe yn ei ffordd ddihafal ei hun.
'Nid bob dydd y lleddir mochyn' chwedl f'ewyrth, ar derfyn cinio diwrnod dyrnu.
"Mi fydd pobol Cwmystwyth wedi cyrraedd y Nefoedd yn eu clocsiau tra bydd pobol Aberystwyth yn cerdded y prom yn eu slipers." Honnir iddo unwaith ddweud wrth gynulleidfa fod eu pechodau, "cyn ddued a chachu mochyn".
Dyma ddwy stori draddodiadol yn y gyfres Straeon Plant Bach gydag Eira Wen a tri Mochyn Bach wedi eu cyhoeddi yn barod.
Welais i 'rioed ferch â chymaint o "awydd" â'ch Rhian chi.' 'Caea dy geg, y mochyn!' Ymsythodd Dilwyn wrth droi at Gary a chau'i ddyrnau ar ei lin.
Pe baech chi neu fi, neu'r Archdderwydd a Gorsedd y Beirdd gyda'i gilydd, yn gweld bwthyn uncorn a chwt mochyn ynghlwm wrth ei dalcen, ni chaem fyth mo'r fath Niagara o ysbrydiaeth a'n galluogai i'w ddisgrifio'n charming cottage with scope for a sideline in productive enterprise readily accessible outbuildings.
bywyd ac amryliw batrymau'r bywyd hwnnw - diwrnod lladd mochyn, diwrnod dyrnu, diwrnod cneifio, byd torrwyr cerrig, carega, cymortha, llofft stabal, - byd y ferm, y tir a'r tywydd...
Yn ol y papur y dirgelwch oedd fod yr hwch wedi geni dau fochyn bach saddleback du, tri mochyn bach coch smotiog a dau bach glas, tipyn o gymysgwch ac yn ddigwyddiad arbennig iawn, hyd yn oed i giamstar ar fridio fel Hugh, a ddisgleiriodd yn y maes yma pan oedd yn efrydydd yng Ngholeg Amaethyddol Glynllifon.
Mae mochyn y Felin A hwnnw heb ddim blew Yn bwyta bonion cabetsh Ni ddaw e' byth yn dew.
Mae rhain yn amrywio o hadau cribau'r pannwr a hadau'r ysgallen sydd wrth fodd nico, i gnau y pigwrn neu'r mochyn coed sydd yn mynd a bryd y gylfingroes.
Dacw nghariad ar y dyffryn Llygad hwch a dannedd mochyn A dau droed fel gwadn arad Fel tylluan y mae'n siarad.
Safodd Thomas Parry'n ei unfan: 'doedd i wraig ddiarth gerdded i gwt mochyn gefn nos ddim yn beth arferol.
Mae o yn y cynta' o'r tri cwt mochyn.' 'Mi a' i â hi yno'n syth bin.' 'A William Huws?' 'Ia?' 'Dowch i'r ty i dalu.
Cyffredin iawn hefyd yw'r Mochyn Cymreig ym myd ffermwyr moch.
Rhwng y cwt mochyn a'r gors mae boncyff un o'r coed llwyfen gafodd eu cwympo, ac y mae brigau bach newydd iraidd wedi tyfu o'i ochrau yn deilio bob blwyddyn.