Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moddion

moddion

Hannah â'i dillad ffwrdd- â-hi, Hannah nad oedd ddim yn awyddus i fynd i'r moddion o gwbl.

Ond gan ei bod hi'n dasg anodd iawn eu cael nhw i Cwrdistan yn saff, maent yn awr yn canolbwyntio ar anfon cynrychiolwyr i Iran i brynu moddion ar gyfer y Cwrdiaid.

Bydd y moddion a ddefnyddir i ddehongli'r cyfrifon a dod o hyd i esboniad ar sefyllfa busnes yn amrywio yn ôl ei natur arbennig.

Yn ystod y gwyliau fe gymerwyd y famgu yn wael ac fe brynwyd aspirin iddi a moddion arall ond ni fuwyd at y doctor lleol o gwbl, ac yn sydyn rhyw noswaith gwaethygodd ei chyflwr yn ddisymwth, a bu farw.

Ganddynt hwy y ceir moddion a phils y mae meddygon yn eu hargymell i'w cleifion.

Wedi dadansoddi helynt y claf byddai'n ei hysbysu o'r moddion y bwriadai eu paratoi ar gyfer y salwch.

Gwneler yr hylif Heb drafferth na ffwdan.' A dyma Jini'n ymuno yn y gytgan: 'O dewch, yr holl wrachod a chwithe ellyllon, I roddi eich bendith yn awr ar y moddion.'

Wedi blynyddoedd o wynebu dyledion a chamweinyddu, meddyliwyd am y cominoedd fel moddion i ychwanegu at incwm tiroedd y goron.

'Roedd y bobl hyn yn dibynnu ar ofergoelion, ac arferent werthu moddion i wella pob math o anhwylder, o ddafadennau i glwyfau drwg iawn.

Mewn dipyn mi fydd gwasanaeth doctor yn PDH, mi fyddwch chi'n cerdded i mewn i beiriant, hwnnw yn dadansoddi eich salwch, byddwch yn rhoi punt mewn blwch, a bydd ffisig neu dabledi yn dod allan wedi ei bacio'n ddestlus a 'print-out' taclus i ddilyn i ddweud wrthych pryd i gymryd y moddion.

Ond nid yw pawb yn gytÉn ar y moddion gorau i sylweddoli hynny.

Diflannodd llawer o ddirgelwch gwaith yr alcemegwr ynghyd a'r hud a lledrith a berthynai iddo, pan ganolbwyntiodd Robert Boyle ffisegydd a chemegydd Prydeinig, ar ddatblygu moddion a phils i'r claf.

Chwarae teg i'r Llywodraeth, trwy ryw bedair canrif o lywodraethu Cymru, er pob tro ar fyd, er pob newid ar ddull y Senedd a moddion llywodraeth, er pob chwyldro cymdeithasol, ni bu erioed anwadalu ar y polisi hwn o ddiddymu'r iaith Gymraeg yn iaith weinyddol mewn na swydd na llys nac unrhyw ysgrif gyfreithiol.

Hyfrydwch tangnefeddus Y Lôn Goed sy'n treiddio trwy'r ddau bennill olaf, a'r profiad o gerdded hyd-ddi yn werthfawr ynddo'i hun yn hytrach nag fel moddion i fwynhau unrhyw brofiad pellach:

Chwi sy'n meddu aur ac arian Dedwydd ydych ar ddydd Calan; Braint y rhai sy'n perchen moddion Yw cyfrannu i'r tylodion; 'Rhwn sy' â chyfoeth, ac a'i ceidw, Nid oes llwyddiant i'r dyn hwnnw.

A moddion gwahanol iawn i'w gilydd.

Ni wnâi dim o'r moddion arferol y tro i'w chadw yn llonydd.

Nid mater diwylliannol yn unig oedd iaith iddynt ond moddion i sicrhau ufudd-dod.

Allwn i ddim gofyn i neb am help na moddion, yn sicr doedd y milwyr ddim am helpu.

Nid ydynt bellach yn gwneud llawer o'r moddion eu hunain, gan fod y rhain yn cael eu paratoi ar raddfa fawr gan gwmniau cyffuriau mawrion.

Eto cynlluniai fodd i ymddial a dianc, ac nid oedd y moddion amryfal a'u cynigiai eu hunain iddo yn amhosibl i'w ddychymyg beiddgar.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.

Hyderwn ein bod wedi cael y moddion gorau i roddi mantais i'r holl fyfyrwyr Cymreig i gyfarfod a'u gilydd yn Rhydychen; a gallwn sicrhau y caiff myfyrwyr newydd groeso calon, a doethineb profiad yr hen aelodau, a gŵyr myfyrwyr mor werthfawr ydyw hwn, ar eu dyfodiad yma.

Tua chwe mil o flynyddoedd yn ol, darganfu rhai offeiriadon sut i gynhyrchu aur trwy doddi mwyn aur.Arferent hefyd wneud moddion o berlysiau a gwreiddiau planhigion y byddent yn eu casglu yn y coedwigoedd.

Hwy sydd wedi newid ein bywydau beunyddiol trwy ddefnyddio cynnyrch naturiol a chynnyrch gwneud i greu moddion newydd, defnyddiau amaethyddol a dilladau newydd.

Ar yr un pryd yn y dalaith gyfan byddai mwyafrif y Protestaniaid yn llai nag yw ar hyn o bryd ond byddai Senedd Ulster yn sicrhau'r moddion i'r ddwyblaid gydweithio'n greadigol er y byddai mwyafrif o hyd gan y Protestaniaid.

Os coeliwch chi rai o aelodau seneddol y pleidiau eraill, cabinet moddion ydi Rod Richards, a'i lond o bethau gwenwynig.

Ac ym Mangor, gadawodd y moddion i godi'r elusendai sydd gyferbyn â'r Eglwys Gadeiriol ac yn dal yn ddefnyddiol.

Ni byddai na rhaff o gylch ei chorff na gefynnau am ei choesau yn ddim ond moddion iddi ddangos ei champau.