Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moderniaeth

moderniaeth

Rhyw ystum i gyfeiriad moderniaeth yw'r rhain oll, yn ymdeimlo a'r angen am dorri allan a chreu rhywbeth newydd, ac eto'n anabl i wneud hynny.

Ni allai Gruffydd stumogi moderniaeth Bobi Jones, ac ar ben hynny, 'roedd Bobi Jones wedi bod yn feirniadol o farddoniaeth Gruffydd a rhai aelodau o'i genhedlaeth.

Gareth Alban Davies, Moderniaeth Barddoniaeth Gymraeg

Hynny yw, barddoniaeth a oedd yn rhychu mewn hynafol rigolau oedd barddoniaeth Gymraeg gyfoes bron yn gyfan gwbl; prin fod moderniaeth wedi ei chyffwrdd.

Effaith colli'r ymwybod o bechod yw Moderniaeth Cristnogol, ac oblegid hynny y mae'n ffiaidd gen i.

Fe ellid dadlau, wrth gwrs, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng moderniaeth Cymru a'r modernismo y bu+m yn ceisio olrhain rhai o'i deithi, ac a oedd yn fynegiant pwysig o'r 'argyfwng byd-lydan' y cyfeiriodd Onis ato.

Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth, realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol.

A oes gwrthdaro rhwng moderniaeth a dilysrwydd diwylliannol?

Pryderai ynghylch pwyslais Moderniaeth ar gynnydd dyn tuag at berffeithrwydd.