Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

modryb

modryb

Ac i lenwi'r ceudod, beth am arddangos anrheg Modryb Matilda, sef 'sgathriad wedi'i fframio i ddathlu agoriad swyddogol Twnnel Conwy.

Teimlai Mam yn flin wrth Modryb, a daeth yr hen deimladau frwg a fu'n ei chorddi ganol y pnawn, i'w phlagio eto.

'Storiau Miss Lloyd!' Yr oedd byd o ddirmyg yn llais fy modryb.

Nid oedd yn dod yn ôl, meddai, am wythnos eto, os byddant yn gallu gwneud hebddi, gan fod eu modryb Dilys yn falch o gael ei chwmni a'i help.

Daeth Modryb i'w chwfwr ar ben y landin, a golwg fel dynes wyllt o'r coed arni.

Rhyfeddais fwy o weld Miss Lloyd yn prynu'r ffrog werdd gyda bendith edmygus Modryb Lisi.

Cydymdeimlwyd Mrs Eirlys Jones sydd wedi colli ei chwaer, Mrs Ciss Roberts wedi colli ei chwaer-yng-nghyfraith, Miss Nansi Jones wedi colli Auntie Lou, ei modryb a Mrs Kathleen Roberts wedi colli chwaer-yng-nghyfraith hefyd.

Chwaer garedig ac anwylaf Ronie a modryb ffeind David, Ann, Joana a Margy a hen fodryb gariadus Sarah.

Modryb Mark a Stacey.

Mae pobol yn dweud nad oes gynnyn nhw ddim help pan maen nhw'n tisian, ond dwi ddim yn 'u credu nhw.' Roedd Modryb yn ailddrechrau mynd i hwyliau pregethu eto, ac wedi anghofio am y tro am y sŵn crafu o'r llofft chwarae.

Er mawr syndod i mi, a mawr ddigofaint, cytunodd Modryb Lisi.

Gwyddwn eu bod yn cuddio pethau oddi wrthym ni, y plant, ond ni pheidias yn fy ymchwil i ddod at y ffeithiau, a rhaid i mi gyfaddef i mi gael cryn gymorth gan fy modryb, Bopa Jane, chwaer fy mam, a oedd yn ddibynadwy ei gwybodaeth ac yn ddiflewyn ar dafod yn ei datguddiadau o'r ffeithiau.

A beth am Modryb Lisi?

Roedd Modryb yn ei gwely yn darllen Woman's Weekly fel brenhines, Gwenan a'r hogiau'n cysgu a Dad yn edrych ar y newyddion hwyr ar y teledu.

Pe gwelet ti'r bwrdd cinio wedi'i osod, mi 'ddyliet mai'r brenin a'i wraig a'i modryb fasai'n mynd i eista wrtho, a threulio awr a hanner yn dilio-dalio wrth 'i ben o!

Ond mae'n amlwg nad oedd Modryb Lisi na Miss Lloyd yn rhannu fy niflastod.

Mynnai Modryb, ar ôl estyn bocsaid mawr iawn o hencesi papur o'i ches, mai am fod yna lwch rhwng cynfasau'r gwely roedd hi wedi tisian.

Sodrodd Modryb ei hun ar y gwely, a chuchio.

Glynai Modryb Lisi wrthyf fel gelen, er i mi awgrymu'n gynnil y byddwn yn ei chyfarfod hi a Miss Lloyd yn nes ymlaen yn y lle a'r lle ar yr adeg a'r adeg.

Ond nid oedd pawb yn Seion yn debyg i Modryb Lisi, ac fe gafodd Miss Lloyd aros.

Byddai'i fam yn dod i fyny efo'r ddiod Horlicks roedd Modryb wedi'i archebu ymhen tua chwarter awr, a byddai rhaid iddo fo fod yn ôl yn ei fync erbyn hynny.

Fe glywais i beth ddywedodd o ar ei wely angau, fe glywodd fy mam a nhad a'm modryb i hefyd, ac yr oedden ni i gyd yn iawn.

Gwyddwn fod yr amser yn nesau i mi symud i ddosbarth Modryb Lisi ym mhen pella'r festri, a dyna'r unig dro nad oeddwn am dyfu i fyny.

Byddai'i modryb yn deud fod Syr Simon yn arfar cael 'i sgwrio cyn brecwast bob dydd hefo brws sgwrio, gymra fy llw y byddai raid i minna fynd trwy'r un oruchwyliaeth.

Daethai ef a'i modryb Alme i flasu unwaith eto swyn eu cynefin, cael cwmni Howel y brawd ieuengaf a'u tendio gan Hannah a merched eraill y Teulu.

Doedd Modryb byth yn dweud celwydd.

Mae gen i ofn y bydd rhaid chwilio beudai Cri'r Wylan, rhag of n ei fod wedi ei chuddio yma." "Twm Dafis o bawb!" meddai Modryb Catrin, am y canfed tro.

'Chawswn i ddim dime gan Modryb Lisi dros ei chrogi.

Yn ol Modryb Lisi, gwell oedd ganddi eistedd ar ei thin yn darllen sothach.

Modryb Emma Francis.

'Twt lol, Modryb,' meddai he fel pe bai hi'n siarad efo Huw pan oedd o'n dychmygu pethau, 'dim ond sŵn y gwynt.' Trodd ei modryb a'i llywio'n ôl i gyfeiriad ei stafell wely gerfydd ei hysgwyddau.

Byddai Modryb Lisi'n difetha pob sbri, a chaniatau y byddai hi'n fodlon dod, ac roedd hynny'n gwestiwn gen i.

Wrth gwrs, modryb-yng-nghyfraith oedd hi i Nedw fel nad oedd hi ddim yn tynnu'r teulu i lawr.

(Tueddai Modryb i siarad Saesneg gydag acen snobs Lerpwl pan fyddai dan deimlad.) 'Ewch i fyny i tsiecio.'

Fel y soniais yn barod diflannod Elin, modryb fy Mam, mewn dirgelwch.

Wel, was i, mae'i modryb hi wedi'i chynysgaeddu'n helaeth â'r elfen anghysurus yna, ac yn ychwanegol at hynny mae hi'n ofandwy o genteel.

Roedd Ysbryd yr Hen Reithordy wedi diflannu eisoes i ddechrau ar ei waith ofnadwy o ddychryn Modryb Lanaf Lerpwl.

Bu'n rhaid i Modryb fodloni ar hynny a dyma'r ddwy'n mynd drwodd i'r llofft.

Ar ôl i Bobol y Cwm orffen ac i Dad fynd allan am beint roedd Modryb wedi rhoi pregeth i Mam ar sut y dylai plant ymddwyn wrth y bwrdd bwyd.

'Gyda llaw, Modryb,' gofynnodd Mam gan gofio, 'wnaethoch chi ddim tisian gynnau, do?'

Ond edrychai Modryb yn fodlon braf, ac ar ôl gweu dwy neu dair modfedd, aeth i glwydo'n gynnar.

Ond roedd yn rhaid trafod be i'w wneud ynglŷn â Modryb, a hynny ar frys.

Ond doedd dim troi ar Modryb.

Modryb Lanaf Lerpwl - Meinir Pierce Jones (tud.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

Roedd Modryb Lisi am i bawb eistedd yr Arholiad Sirol a derbyn gwobr yn y Gymanfa.

Diffoddodd y golau a chychwyn i lawr y grisiau gan alw: 'Horlicks mewn chwinciad, Modryb'.

A chan mai chwaer i Mam 'di Modryb a bod 'y Nghnither yn ferch i Yncl, trodd y mewnfudo yn fewnlifiad.

Ond doedd Modryb byth yn tisian chwaith, nac oedd?

Ar ôl iddi fynd dechreuodd Mam feddwl am yr hen ddyddiau yn Lerpwl a'r boen o fyw drws nesaf i Modryb.

Bob dydd Mawrth o hynny ymlaen byddai Miss Lloyd a'i thacsi yn galw heibio i Modryb Lisi i fynd a hi am dro i rywle neu 'i gilydd.

"Wel," meddai Cadi, "Os yw modryb Dilys yn methu gwneud hebddi gwell iddi aros." Nid oedd rhaid dweud wrth Huw hanes mynd â Dad i'r ysbyty, yr oedd wedi clywed yr hanes i gyd ar y Tir Mawr gan y gwyliwr a Harri Pritchard.

Wedyn y cwbwl sy eisio'i wneud ydi codi un o'r carpedi teils yn y gongol bella, uwchben llofft Modryb, a chrafu'r llawr efo siswrn neu rywbeth.

Roedd hi'n ddyletswydd arni ddysgu'i phlant sut i fihafio, fel roedd hi'i hun wedi cael ei dysgu, mynnai Modryb.