Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moel

moel

Yn syth o'ch blaen mae Moel Hebog, y mwyaf ohonynt sydd i'w weld o'r fan yma.

I ddechrau, Nant-y-moel.

Roedd hi'n fore braf, a chan fod rhyw ddwy awr i fynd cyn y dadorchuddio, gadewais y ffordd fawr wrth dafarn y Red Cow yn Nhreorci a throi i fyny i Troedyrhiw Terrace wrth droed Moel Cadwgan.

Yn nhymor yr ŵyn gwelid mynaich lleyg Abaty Aberconwy yn yr hafotai hwnt ac yma, a draw tua Moel Fleiddiau a Moel Cibau yr oedd sŵn corn yr helwyr yn darogan fod rhyw newydd yn y tir.

Daeth Cwm Rhondda o'r golwg a'r ddau fynydd cyntaf i mi gofio eu gwld erioed, sef Penpych a Moel Cadwgan.

Os trof fy wyneb tua'r gogledd, dros y bencydd moel a'r rhosydd llaith, heibio i Gnwc-y-frân a thros afon Carrog ar hyd Cefn Du ac ymyl Penlanolau, dof at fy hen gartref yng nghysgod y graig yn ymyl y llyn.

A beth am rai ffeithiau moel?

Daeth y ddau i lawr i'r De o Ddinas mawddwy, un o'r pentrefi hyfrytaf a Chymreiciaf y pryd hwnnw cyn y mewnlifiad Saesneg iddo, ond yn Nant-y-moel y'm ganed i.

Deuthum o dan fy maich dirgel o boen yn ara' deg dros foroedd anwadal i Dde'r Iwerydd, mewn bad anferth a oedd yn ysbyty gloyw, nes cyr'aeddyd cyrrau moel a gerwin yr ynysoedd amddifad .

Yn wir mae lle i gredu mai'r un gūr ydoedd â Llywelyn ab y Moel, y bardd a'r herwr a fu'n bleidiwr selog i Owain Glyndwr.

Ymlaen rwan, ynta' am Cwrt Isaf, sydd â'i dir yn rhedeg i fyny i Moel Hebog.

Yn Llanilltud Faerdre ym Morgannwg ceir yr enwau Y Ddihewyd a Moel Dihewyd.

Mae yng nghreigiau Moel Hebog gerrig hardd iawn, o liwiau gwahanol.

Erbyn diwedd y ganrif, fodd bynnag, wedi i'r diwydianwyr a'r cyfoethogion ddod i'r sêt fawr, adeiladau pur wahanol i'r tai cyrddau moel a phlaen hyn a godwyd ar lawr y dyffryn, a'u pensaerni%aeth Gothig yn adlewyrchu byd gwell y gymdeithas ddiwydiannol newydd.

Y mae'r Ysgol Feithrin agosaf yn Nhrelewis yr ochr draw i Lyn Ogwr (Ogmore Vale) o Nant-y-moel a mynychir hi gan ddyrnaid bach o blant oddi yno.

Datblygodd y gystadleuaeth gyda'r blynyddoedd gan ofyn i'r clybiau gyflwyno a thrafod llyfr rhagor na dysgu ffeithiau moel am y gyfrol.

Gweinidog gyda'r Annibynwyr Cymraeg yn Nant-y-moel, Cwm Ogwr, ydoedd fy nahd, yn fab i Iowr, a merch i ffermwr yn Nefynnog oedd fy mam.

Safwn o flaen y dyn pen moel yn y siaced law denau, trywsus brown golau, crys brown golau; edrychai fel pawb a neb, meddyliais, a dim.

Syllu allan trwy'r ffenestr yr oedd, gan ryfeddu at yr olygfa draw o'r Betws Fawr, y Graig Goch, yr Wyddfa a Moel Hebog.

Pan oeddwn yn wyth a naw oed awn o gylch Nant-y-moel gyda cherdyn i gasglu at y genhadaeth dramor.

All neb help fod ganddo fe ben moel fel pelen lard - a hwnnw'n codi'n bigyn tua'r corun.

Er bod lle i ddal fod Traed mewn Cyffion yn rhy gynnil mewn mannau, ac mewn perygl o droi'n gronicl moel, rhaid derbyn yn gyffredinol nad yw Lewis Jones ddim yn yr un cae a Kate Roberts lle mae celfyddyd lenyddol yn y cwestiwn.

Y merlod hyn oedd yn tramwyo'r llethrau moel cyn dyfodiad y defaid.

A cherrig moel ydy waliau'r tū, oddi mew ac oddi allan, llechi glas Eryri sydd ar lawr y stafell fyw, a lle tân anferthol, gyda'r trawst llwyd-ddu gwreiddiol yn dangos olion canrifoedd o'i lyfu gan fflamau, yn ganolbwynt i'r tū cyfan.

Craffodd Myrddin drwodd i'r ystafell nesaf, oedd hefyd yn dywyll a moel, ond doedd dim golwg o neb ynddi.

Hongiai ei wallt yn rhacs llwyd dros ei glustiau, ond roedd cylch moel ar dop ei ben, fel mynach, neu fel petai UFO wedi glanio yno rhywbryd ac wedi serio'r tyfiant ar ei gorun.

Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.

Wrth i'r olygfa ddod i'r golwg yn ffram y bwlch - yr Wyddfa a Moel Hebog a phenrhyn Llŷn, Ardudwy a Mochras a'r mor ac Enlli - dyfynnodd fy nhad o soned Keats: .

Mae'n rhaid cyfaddef, er hynny, fod safon poriant y tir yn well o dipyn ar Moel Hebog.

Ond roedden nhw yn byw bywyd caled, moel, oedd yn apelio ataf fi.

O'i gorun moel i bowlen ei bibell hir yr oedd Huw Huws yn pelydru heddwch ac ewyllys da.

Yr oedd pobl yn Nant-y-moel a arferai siarad Cymraeg, pobl mewn oed a dyrnaid o blant hŷn na mi, rhai a fynychai eglwys fy nhad.

Pryddest undonog a haniaethol yn y mesur moel.

Ac fe glywes am un boi o Abertawe a gerfiodd garreg fedd iddo fe'i hunan, ond dyma'r tro cynta i fi glywed am ddyn yn talu am gerflun mamor ohono fe'i hunan ac a i ddim i geisio'i ddisgrifio fe, dim ond gweud i fod e'n od o debyg i Madog - yr un pen moel, yr un osgo, a bid siŵr, yr un drwyn.

Moel iawn oedd y tir ond roedd yno lewyrch fel petai tonnau fyrdd yr Iwerydd i gyd yn adlewyrchu haelioni'r haul ar yr ynys fach.