Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moes

moes

Croeso i'r Hengwrt, foneddiges...a chroeso'n ôl i fywyd" A moes-ymgrymodd Hywel Vaughan gan ffugio sgubo'r llawr â het ddychmygol.

Canmol a chlodfori a gwneuthur clod a llawenydd a gogoniant oedd moes ddiwers y prydydd.

Yr un modd, diniweidrwydd a barodd iddo gyhoeddi Y Gymraes (neu 'Merched Cymru', yn ôl y pennawd gwreiddiol), ei lenwi â chynghorion doeth ynglŷn â moes a buchedd yn unol â gwerthoedd y dosbarth canol parchus, a chredu y byddai'n apelio at ferched cyffredin.

Ac a wyddech chi mai Gradd Trydydd Dosbarth mewn Botani, o bopeth, ar ôl pipio ddwywaith, sydd gan Bennaeth yr Adran Moes ac Adloniant Dyrchafol a'i fod o'n hoff o godi'i fys bach, a'i wraig o, os gwelwch chi'n dda, yn drewi o ddyledion?

Ni chawsent glywed rhyw lawer am yr aelwydydd hynny ar hyd a lled y wlad a gywasgodd y beirdd yn un aelwyd ddifai gynddelwig lle ffynnai rhinwedd a moes.

Roedd hefyd yn berson bucheddol a chyfrifol, mawr ei ofal am dynged iaith a llenyddiaeth, diwylliant a moes y genedl.