Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moesoldeb

moesoldeb

Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.

Wrth gytuno ag ef, gosododd y Pwyllgor y ddadl hyd yn oed yn fwy cignoeth, gan apelio at ystyriaethau doethineb hirben ac o fuddioldeb yn ogystal â moesoldeb:

Eithr beth sydd a wnelo moesoldeb â llenyddiaeth ysbrydoledig?

Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.

Teyrngarwch i genedl yw elfen bwysicaf moesoldeb gwleidyddol.

Nid yw'r erthygl hon yn llwyddo i ddatrys beth yw effaith llenyddiaeth, a beth yw ei pherthynas â moesoldeb, ond y mae'n eglur ei bod yn cymeradwyo realaeth sy'n onest a chyfrifol.

Yr oedd y dulliau hynny, a moesoldeb a chrefyddolder confensiynol yr oes, yn ddigon i'r mwyafrif mawr o'r nofelwyr Cymraeg eraill .

Yn ogystal â'r feirniadaeth ar safon moesoldeb rhywiol merched Cymru, ceir llu o gyfeiriadau yn yr Adroddiadau at anonestrwydd, twyll a diota.

Cydymdeimla Saunders yn y fan hon gyda'r rhai sy'n dadlau nad oes a wnelo llenyddiaeth â moesoldeb.

Darllen oedd ei brif ddiddordeb ac, fel Fidel, roedd ei gymhellion yn tarddu o ramant a moesoldeb yn hytrach nag unrhyw ideoleg bendant.

Meddai awdur anhysbys o Ddinas Mawddwy mewn traethawd 'Adgofion Bore Oes', a sgrifennwyd rywdro yn y ganrif ddiwethaf: 'Yr oedd llawer o hen arferion darostyngol a fygent bob teimlad o rinwedd a moesoldeb ac a brofent yn felldith i'r ardaloedd yma.

A ddylai ddilyn ei arferion, ei draddodiadau, ei gredoau, ei foesau ei hun, ynteu dderbyn moesoldeb arall sydd yr un mor ddilys mewn traddodiad diwylliannol arall?