Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moethus

moethus

Ni allai Ffredi gredu bod y doctoriaid coch yn gweithio'n wirfoddol i'r chwilod, er mwyn i'r rheini gael byw mewn plasdy moethus.

Heddiw, bydd cysgod iselder yn treiddio trwy ddrysau caeedig a moethus ein profiadau maestrefol Cymreig.

Y dyn a gai'r 'bai' neu'r 'clod' am adeiladu'r Plas hudolus, moethus, oedd J.

Roedd cadeiriau caled mawr gyda seddau crwn coch moethus wedi eu gwthio yn erbyn y bylchau gwag ar hyd y wal o gwmpas.

Mae bywyd pobl yn fwy moethus.

Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.

Mae'n deialu'r rhif i'w swyddfeydd moethus yn Stryd y Santes Fair, Caerdydd.

Ymhyfrydai yn y ty moethus cyffyrddus, yn y gerddi a'r perllannau; yn y meysydd eang ffrwythlon a ymestynnai i lawr at Afon Wysg.

Mae Canolfan Pentre Ifan yn glyd, cysurus, hardd hyd yn oed, a moethus.

Yn awr, ag yntau tua deg ar hugain oed, mae'n barod i fwynhau bywyd moethus gyda'i deulu yn ei lys dymunol yn Sycharth.

Mae'n ddrwg gen i na fedra i gynnig y moethus-rwydd sy'n siwr o fod yn beth hollol naturiol i chi yn eich gwaith bob dydd.' Sgubodd bentwr o bapurau oddi ar gadair anghyfforddus yr olwg, gan ddal ei gwynt rhag iddo ddarganfod nad oedd y coesau'n wastad hyd yn oed wedyn.

Gwelai Myrddin Tomos yn y gell gosb y meysydd moethus, maethlawn ar lannau Tywi, y cnydau cyfoethog, y bencydd beichiog,,a'r gweunydd sa oedd mor esmwyth-lyfn â lawntiau.

Bedwar mis yn ôl 'roedd y llwybr igam-ogam o'r llidiart i'r buarth fel haearn Sbaen ond heddiw edrychai'n debycach i afon na dim arall a châi'r Mercedes moethus drafferth i deithio.

Mynd i dy bwyta moethus wedyn am ginio.

Mae'n debyg mai amddiffynfa i'r larfa rhag rheibwyr ac i'w gadw'n llaith mewn math o fath swigod moethus tra bo'n gwledda'n awchus ar sydd y planhigyn.

Y parch a delid i'r etiquette moethus - y patrwm ymddygiad - a'r cwrteisi bonheddig, nodweddiadol o'r dosbarth tirol, yw'r brif allwedd i ddeall agwedd meibion Gwedir tuag at eu cymdeithas gartref ac oddi cartref.

Daeth perchenogi car (a charafa/ n hefyd!), mynd ar wyliau tramor, yfed gwin costus, bwyta mewn gwestai drud, a chael cartrefi moethus, yn rhan o fywyd llu mawr o bobl.