Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mohono

mohono

Nid tamaid i aros pryd mohono, mae addysg feithrin o safon yn cyfoethogi datblygiad y plentyn cyfan ac fe all gyfrannu at godi safon ei berfformiad academaidd cyffredinol.

Nid llyfr i gasglu llofnodau mohono, i'w gludo i eisteddfod a sioe a sasiwn.

O'r diwedd fe'm sicrhawyd gan y trapiwr nad aligator mohono na chrocodeil ychwaith: ei farn oedd mai iguana oedd, creadur a ystyrid yn fwyd danteithiol gan y brodorion.

Eithr nid myth mohono i'r dyneiddwyr, ond hanes gwirioneddol, fel y gwelir o edrych ar waith y pennaf o haneswyr Cymreig y cyfnod, Humphrey Llwyd.

Wrth yrru adref dechreuai ail-bendroni am y posibilrwydd o 'gyfarfod eto a rhywun annwyl.' Gwyddai nad gŵr atyniadol mohono ef yng ngolwg neb.

Wnes i mohono fo.

Ni welais mohono wedyn.

Ni iacheais mohono'n gorfforol.

Daw un mewn pennill o'r Gododdin sy'n clodfori arwr o'r enw Gwawrddur oblegid ei orchestion milwrol ac yna'n ychwagegu'r geiriau ceni bei ef arthur, sef 'er nad Arthur mohono'.

Buwyd yn paratoi testunau a elwid Bibliae Pauperum (Beiblau'r Tlodion), sef crynodeb o lyfrau hanesyddol y Beibl; a cheir testun Cymraeg o'r fath a elwid Y Bibyl Ynghymraec er nad Beibl mohono yn ein hystyr ni.

Ganddo ef y clywsom am y Cl Drycin, na welodd neb erioed mohono i gyd, dim ond ~weld yr haul o'r tu cefn i gwmwl yn tywynnu ar ei ochr a'i gefn.

"Chefais i mohono fo yn unlle.

Nid unionodd Hugh Evans byth o dan y brofedigaeth hon, er na chlywyd mohono'n cwyno na braidd yn sôn am enw ei annwyl fachgen.

NI welid mohono'n plymio'n acrobatig, yn bloeddio'n uchel ac yn mynd dros ben llestri er mwyn tynnu sylw ato'i hun (fel y gwneir heddiw, gwaetha'r modd).

Ac nid mamau yn unig - ond tadau yn ogystal, arferiad na welid mohono ym Morgannwg y dauddegau.

A welsom ni mohono byth wedyn.

Ac nid llai hyddysg mohono yng ngweithiau'r Diwygwyr Protestannaidd.

Nid llys na synod na chyngor eglwysig mohono ond brawdoliaeth.

Welais i mohono fo .

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Welais i mohono fyth wedyn.

Gan nad Sais mohono, mi gaiff aros yma gyda ni a defnyddio'r tŷ.

Welodd hi byth mohono wedyn.

Beth bynnag a ddigwydd rhwng Bob a Miss Evans, welwn ni fyth mohono.

Edrychwch draw ac fe welwch lle y rhuthrodd ysgrifbin beiddgar y gŵr hunan-hyderus i recordio i'r oesau ei fawredd ei hun, na recordiwyd mohono yn unman arall.

Ac am y palasau heirdd acw - y rhwysgfawredd, y rhialtwch, a'r gwleddoedd a welsoch - welir mohono byth mwy.

Darlunnir hunllef Gwenan yn fyw iawn ond wrth gwrs nid hunllef Gwenan yn unig mohono ond y teulu cyfan.

'Chlywais i erioed mohono fo'n cwyno hefo dim afiechyd, ac mi fuo'n gweithio yn y chwarel nes cyrraedd oed ymddeol heb golli un munud oddi wrth ei waith.

Welais i erioed mohono fo fel hyn o'r blaen." "Hoffech chi i mi sgwrsio gydag o am funud?

Nid Beibl yn ein hystyr no mohono, ond crynodeb o lyfrau hanesyddol yr Hen Destament.

Cerddodd ymaith, ac ni welwyd mohono gan neb na chynt nac wedyn.

Nid gŵr diddig mohono ef ar y gorau, wrth gwrs; ond gellid bod yn ddiolchgar am ei fod o leiaf wedi ymwared a'i brudd-der a'i ddiffyg pwrpas wrth fopio'i ben ar yr ymlid yma.

Nid tlawd mohono ond dewisodd y ffordd fawr yn fywyd iddo ei hun.

Ond nid llenor yn unig mohono.