Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mohonynt

mohonynt

Y mae elfen gref o hiwmor yn rhai o'r straeon, ond nid jôcs mohonynt chwaith - dyma enghraifft:

Cafwyd tywydd braf a bob dydd buont yn cerdded ychydig filltiroedd allan i'r wlad gan alw mewn tafarndai gwledig am luniaeth a chael croeso cynnes gan y Gwyddelod ar ôl pwysleisio nad Saeson mohonynt.

Er angen egluro'r cyfeiriadau ynddynt, nid cerddi amwys mohonynt a phrin y gellir anghytuno ynghylch eu cynnwys.

Bu'n rhaid aros am ryfel byd arall i gael gwaith yng Nghymru i'r Cymry na chonsgriptiwyd mohonynt i'r lluoedd arfog.

Mae'r Casiaid yn mynnu nad Indiaid mohonynt, ac mae edrych arnynt yn ddigon i gadarnhau hynny.

Ac nid sbarblis mohonynt chwaith.

Ond nid 'beirdd bach' mohonynt byth, nid hwy eu hunain.

Ple ydoedd dros drefnu teyrnas mewn ffordd na wadai i bobol eu hawl i weithio er cynnal corff ac enaid ac na ddibrisiai mohonynt yn eu golwg eu hunain," meddai Arwr Glew Erwau'r Glo.

Y mae'n bur amlwg mai gwaith Heine yw patrwm y rhain, ond nid dynwarediadau dienaid mohonynt.

Er mai cantorion ar drothwy eu gyrfa yw cystadleuwyr Canwr y Byd Caerdydd, nid cantorion di-brofiad mohonynt o bell ffordd.