Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mol

mol

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Canodd Cynan am y Tad Damien a fu'n gofalu am y gwahangleifion ar Ynys Molókai ym Moroedd y De, ond yn guddiedig-gyfrwys mae'n sôn am y Rhyfel Mawr ar yr un pryd, ac wrth fyfyrio ar aberth eithaf y Tad Damien yn myfyrio ar aberth y milwyr yn y Rhyfel Mawr yn ogystal.

Er na wyddai JR am chwedl Odo yn bledu'r tai, ac er na fu ym Mol y Mynydd ond unwaith o'r blaen, ni chafodd drafferth i ddarganfod llidiart pren Nefoedd y Niwl.

Roeddwn i'n eistedd yn y tywyllwch ar haenau o sachau bwyd ym mol awyren a ddefnyddiwyd flynyddoedd ynghynt, yn ôl y peilot Americanaidd, i gario arfau i'r Somaliaid.

Na, dydw i ddim yn dy feio di, Huwcyn." Trwy fy ngalw'n Huwcyn llwyddodd Gruff, yn ei ffordd gynnil ei hun, i gyfleu coflaid o gydymdeimlad fel y'm hysgogwyd innau i fwrw rhagor ar fy mol.