Dylai'r toddiant fod yn hylif ar dymheredd gweddol isel oherwydd fel y cynydda'r tymheredd mae molecylau cymhleth yn dechrau ymchwalu.
Mewn organebau byw, cemegol yw natur y wybodaeth hon, a molecylau cemegol yw'r symbolau sy'n adlewyrchu'r wybodaeth am y nodweddion gwahaniaethol.
Ymhellach, mae'n rhaid i'r cyfrwng beidio a bod mor adweithiol nes dadelfennu molecylau cymhleth o fewn y toddiant.
Felly, ni all organebau byw fodoli ar ffurf nwyon, oherwydd molecylau gweddol syml yw nwyon, ac os anweddir unrhyw gyfansoddyn cymhleth trwy ei wresogi, bydd yn dadelfennu.