Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moni

moni

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Ar ôl y prawf yng Nghaernarfon, yn fwy wedyn ar ôl y cais am symud y prawf i Lundain, ac yn enwedig ar ôl y ddedfryd yn Llundain, yr oedd y gwynt yn troi i gyfeiriad y Blaid; ond ni chariodd y gwynt hwnnw moni i'r hafan ddymunol.

"'Chlywi di moni hi'n tagu?" Gogwyddais fy mhen i wrando, ac yn sicr ddigon clywn ambell besychiad cysetlyd yn gymysg â siad grefi a sibrwd siarad yn y cefn.