Yn y rhybudd enwir Iolo Morganwg, ac fe'i disgrifir fel yr unig un a oedd eisoes yn 'Fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain', sef, fel yr eglurodd yn ddiweddarach, un a wyddai 'Gyfrinach a Breiniau a Defodau Beirdd Ynys Prydain'.
Er bod dau o feirdd Arfon, sef Dafydd Ddu Eryri a Hywel o Eryri, wedi'u gwahodd i'r orsedd gyntaf, ni ddaethant ar ei chyfyl am eu bod yn amau honiadau Iolo Morganwg ynglŷn â hynafiaeth y mudiad.
Urddwyd Thomas Williams (Gwilym Morganwg), sef ceidwad y dafarn a enwyd, ac Evan Cule gan Iolo Morganwg yn yr orsedd hon.
Mae'n amlwg na chafodd Iolo Morganwg lawer o drafferth i gael cnewyllyn sylweddol o aelodau'r Gwyneddigion i dderbyn ei honiadau di- sail.
Bu gan Thomas Burgess ran amlwg yn yr eisteddfod arloesol honno, ac ynddi fe'i hurddwyd yn dderwydd gan neb llai na Iolo Morganwg ei hun.
Cyfeiriodd hefyd at y drychiolaethau o brifeirdd (primitive poets) neu'r 'cyntefigion Beirdd Ynys Prydain', nid amgen, Plennydd, Alawn a Gwron, sylfaenwyr dysg y Beirdd (yn ôl Iolo Morganwg), y drindod a fyddai'n symbylu'r Awen yn ymwybod y Beirdd a ddeuai i'r cylch.
Anerchodd Iolo Morganwg y Beirdd hefyd gan ddweud mai 'Trefn Beirdd Cadair Morganwg y sydd fel hyn yn un peth canu a dangos o flaen cadair rai Cywyddau, Englynion ac awdlau, yn ôl yr hen Gelfyddyd fal y peth mwyaf effeithiol i gynnal yr iaith Gymraeg, yn hyn o bethau rhaid yw gwybod y rheolau yn benigamp .
Cynhelid gorseddau gan ddilyn y defodau a arferid gan Iolo Morganwg yn ei orseddau cynnar ac, yn unol â'i gyfarwyddyd, yn enw Cadair neu Dalaith arbennig gan amlaf, ac o leiaf dri pherson lleol a oedd eisoes wedi'u hurddo'n Feirdd yn llywyddu'r gweithgareddau.
Trwy ei syniadaeth gefnogol i'r Chwyldro Ffrengig, a fynegir yn y cyfrolau hyn, y daethpwyd i adnabod Iolo Morganwg fel 'Bard of Liberty'.
Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg, a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod.
Wedi i'r Beirdd ymgynnull wrth y maen, gweiniwyd y cleddyf ganddynt ac eglurodd y 'datgeiniad', sef llywydd y seremoni, Iolo Morganwg, na fyddai'r Beirdd yn arfer cario cleddyf noeth yng ngŵydd neb ac na fyddent yn caniata/ u i neb gario un yn eu gŵydd hwythau ychwaith.
Yn yr orsedd hon eglurodd Iolo Morganwg beth oedd pwrpas Beirdd Ynys Prydain, sef adfer cerdd dafod, y cyfrwng, meddai, a ddiogelodd y Gymraeg rhag llygru, a hyrwyddo'r mesurau rhydd i hyfforddi'r werin.
Yn ôl Iolo Morganwg, cafodd ei rybuddio ganddynt y byddent yn ymweld â'i gartref yn Nhrefflemin a mynd trwy ei bapurau.
Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.
Ymysg y beirdd a wahoddwyd i orsedd gyntaf y Fro roedd Edward Evan (lorwerth Gwynfardd Morganwg) o Aberdâr, Edward Williams (Gwilym Fardd Glas) o Ferthyr a'r Bont-faen, William Moses (Gwilym Glan Taf) o Ferthyr a Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi).
Fe wyddai Iolo Morganwg, ac yntau'n undodwr ac yn ei dro yn ddiweddarach yn llywydd gweithgareddau'r enwad, gystal â neb am y prinder hwn.
Sefydlwyd Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn y flwyddyn 1802 yn bennaf oll gan Iolo Morganwg.
Syniad Edward Williams (Iolo Morganwg), saer maen, bardd ac ysgolhaig o Drefflemin, Bro Morgannwg, oedd sefydlu'r mudiad, a hynny er mwyn adfer y traddodiad barddol i'w hen ogoniant.
John Morris-Jones a achubodd y dydd drwy nodi fod mesur y tri-thrawiad yn perthyn i ddosbarth Morgannwg o fesurau, sef y dosbarth a ddyfeisiodd Iolo Morganwg ei hun.