Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

morgrug

morgrug

ac ugeiniau o ddynion yn haner noethion yn gwau trwy eu gilydd fel morgrug aflonydd, a'r chwys yn disgyn oddiwrthynt yn gafodydd i'r llawr; twrf y morthwylion a therfysg y peirianau mor ddychrynllyd, nes crynu y mynyddau cyfagos i'w sylfeini.

Argian mi oedd 'na lot o bobol o gwmpas, yn gweu drwy'i gilydd 'run fath â morgrug, a roedd 'na dipyn o hogia'r Armi hefyd, yn sefyllian ar y sgwâr.

At hynny, roedd cyfle i fwynhau awyrgylch Krako/ w heb fod yno filoedd ar filoedd o dwristiaid, ac i gerdded mynyddoedd y Tatra heb fod sgi%wyr fel morgrug hyd y lle.

Ond sylweddola'r siaradwr mai meidrol ydyw yntau ac ond yn forgrugyn ystrydebol arall i'r morgrug y mae'n eu gweld yn y pellter.

Roedd hi mor fawr fel yr edrychai'r bobl oedd i fyny ar ei man uchaf cyn lleied â morgrug.

Roedd y bobl ar y traeth fel morgrug.