Dyna'r foment y teimlodd Kate bach, morwyn Tyndir, un o'r teithwyr, y byddai hi wedi bod yn ddoethach iddi fod wedi gwrando ar gyngor ei mam a hepgor y Palladium y noson honno.
Aeth un ohonynt â'i gariad oddi arno, morwyn fach a garai ond yr ofnai siarad â hi.
Gan mai Ystorya Trystan yw'r unig destun naratif sydd gennym am Drystan ac Esyllt, a gan fod posibilrwydd fod yr englynion yn rhai hynafol, bu'n demtasiwn i rai chwilio ynddi am debygrwydd i'r chwedlau Ffrangeg, gan gasglu fod Golwg Hafddydd, er enghraifft, yn cyfateb i Brengain, morwyn Esyllt yn y traddodiad Ffrangeg (er gwaethaf yr enw gwahanol), a bod taith y cariadon i Goed Celydon yn cyfateb i hanes Tristan ac Iseut yn ffoi i Fforest Morrois.
Roedd sawl un ohonynt wedi bod yn ennill ei bywoliaeth ynghynt fel gwniadyddes neu yn gwasanaethu fel morwyn.
Cafwyd yr arian gan deulu goludog yr oedd un o chwiorydd fy nhaid wedi ei wasanaethu fel morwyn nes gorfod gadael am ei bod yn disgwyl baba.
mae Siwan, merch y brenin John o Loegr, yn siarad â'i morwyn Alis yn nrama Saunders Lewis Siwan, ac yn cael hanes noson Glanme ganddi hi.
Nid yw'n hollol annisgwyl felly mai morwyn ddiwair oedd nawddsantes cariadon Cymru.
Daeth Mary Jane Williams, un o Gaergybi ond yn lletya dros dro yn y Ffatri, Llanfachraeth, yno i geisio rhoi rhywfaint o drefn ar bethau, ond cyndyn iawn oedd yr hen Siôn Elias o roi ei law yn ei boced i dalu iddi er ei bod hi'n ôl pob sôn yn fwy na morwyn, a'r un mor gymwynasgar tuag at y tad a'r mab.
Reit, cariad?' 'Diolch i chi.' Erbyn i Ifan Ifans gyrraedd yn ôl at y bus lledorweddai morwyn Tyndir ar un o'r seti croesion a'i chyntafanedig yn gorffwys ar ei dwyfron.
Nawddsantes gwragedd beichiog oedd Margred ac arferai gwragedd apelio ati i leddfu eu gwewyr esgor er mai morwyn oedd Margred.
Beth bynnag, priododd ei fan hynaf, Thomas a Mary Elisabeth Morgan o Ynys y Bwl, morwyn yn nhafarn Y Griffin, Pentre a bu iddynt naw o blant.
Credai mai morwyn oedd, ond ni chymerodd y ddau ddyn unrhyw sylw ohoni.
Ystorya Trystan yw'r peth tebycaf sydd gennym i chwedl go iawn am Drystan, ond anghyflawn iawn yw'r naratif fel y mae wedi ein cyrraedd, fel y dengys crynodeb ohono: Aeth Trystan ap Tallwch ac Esyllt gwraig March ap Meirchiawn yn alltudion i Goed Celydon, yng nghwmni morwyn Esyllt, Golwg Hafddydd, a gwas ifanc o'r enw y Bach Bychan.