Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

morwyr

morwyr

Gwnaeth y morwyr siglen iddynt gyda chadair bosyn a rhaff wrth un o'r stays ac yn bur debyg cylchau gyda rhaff iddynt eu taflu i fwced.

Oherwydd cyflwr bregus y llongau a pheryglon y môr o gwmpas arfordir Gogledd Cymru, enillodd morwyr yr ardal barch ac enw da fel rhai medrus a meistrolgar wrth eu gwaith.

Symudodd gweithwyr eraill, megis gyrwyr tram a choedwyr yn y diwydiant glo, i gefnogi'r docwyr a'r morwyr.

Roedd hi'n dechrau nosi ac efallai mai dyma'r rheswm paham fod y morwyr yn awyddus i ddychwelyd i'r llong.

Pawb ond gweddill yr hen griw, y morwyr.

Cafodd y gweithwyr rêl eu hysbrydoli gan frwydrau a buddugoliaethau'r morwyr a'r docwyr.

Doedd y morwyr ddim yn or-hoff o gicio'u sodlau ar dir dieithr.

Gwyddai oddi wrth yr ychydig lythyrau a ddilynodd nad oedd pethau'n argoeli'n dda i Lynges Prydain yn India'r Gorllewin - Eistaing, a'r Llyngesydd a'i holynodd, Comte de Guichen, yn gyfrwys, y morwyr a'r milwyr yn anystywallt, afiechydon yn rhemp a llong ugain oed fel y Cornwall yn gollwng fel basged.

Chwythodd a thuchanodd y morwyr, ac oherwydd ei bod hi'n graddol dywyllu roedd traed neu freichiau yn mynnu bachu bob gafael mewn gwreiddiau coed neu ganghennau, a disgynnodd sawl un ar ei hyd.

Aeth â morwyr gydag ef i symud ychydig o'r llwyth nes dod o hyd i olwyn a ffitiai yn iawn.

Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.

Yn y nos gallaf glywed y morwyr yn canu yn eu cychod a chaf gysur wrth ddychmygu mai canu'r Hen Deulu rwy'n ei glywed.

Cawsant eu disgrifio fel "morwyr di-ail cyn belled ag yr oedd elfennau morwrio a hwylio llongau bychain yn y cwestiwn".

(Y mae enghreifftiau eraill o hyn yn digwydd, megis y frech goch yn creu epidemig farwol ymysg pobl ynysoedd Môr y De yn dilyn ymweliad Capten Cook, neu siffilis ymysg morwyr Capten Cook yn dilyn eu hymweliad hwy â'r ynysoedd.

Tua diwedd mis Gorffennaf, cytunodd y prif gwmnfau llongau i gydnabod Undeb y Morwyr a rhoi cyflogau uwch i w aelodau.

Gwaeddodd y capten a gwaeddodd rhai o'r morwyr.

Cyn yr ymweliad, yr oedd y ddwy haint yn gymharol ddibwys ymysg y poblogaethau a oedd wedi arfer â hwy, sef y morwyr â'r frech goch a'r ynyswyr â siffilis, ond bod yr effaith ar y boblogaeth newydd yn farwol.)

O flaen y pum cant a mwy o ymfudwyr a morwyr ar ei deciau, yn edrych gyda theimladau digon cymysg ar y tynfad yn prysur ddiflannu o'u golwg, roedd mordaith o bron i bedwar mis.

Nid oeddem i loetran o gwmpas Cnwc y Clap, cornelyn uchel uwchben harbwr y Cei, a gwrando ar y morwyr a'r pysgotwyr a arferai ymgasglu yno ac adrodd am eu hanturiaethau ar y mor a son am arferion cudd rhai o bobl barchus y Cei a hynny mewn Cymraeg graenus, anfeiblaidd.

Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.

Cyn diwedd streic y Cambrian, penderfynasai Undeb y Morwyr ymwrthod â gwaith o fis Gorffennaf ymlaen, nes bod perchnogion y llongau yn cydnabod yr undeb ac yn talu cyflogau mwy rhesymol.

Mae hanes Môn yn frith o gyfeiriadau at longau a morwyr.

Roedd y morwyr a rowliai'r casgenni'n anadlu fel ceffylau gwedd pan ddaeth y pentre a'r hofeldai gwyngalchog i'r golwg drachefn.

Canolfan yr aflonyddwch oedd Lerpwl, lle daeth y docwyr ma's o dan arweiniad Tom Mann mewn cydymlyniad â'r morwyr.

Nid wyf yn amau dim na chawn ni lawer storm; gorau yn y byd, fe'n gwnânt yn well morwyr.

Rhyw ddiferyn?' Ymateb nacaol ddaeth o du'r morwyr.

Un o'r pethau cyntaf a ddenodd fy sylw pan ddechreuais fynd i'r capel oedd y darlun ar y mur yno, sef llun llong hwyliau mewn storm uwchben y geiriau 'Cofiwch y Morwyr'.

Cynhaliwyd streiciau gan ddocwyr a morwyr drwy'r haf twym.

Daeth ef a'r prentis yma yn gyfeillion mawr - a'r prentis yn ei gynorthwyo pan bu ymrafael rhwng rhai o'r morwyr ar ei long ef a rhai o long arall yn Newcastle, New South Wales.