Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moryn

moryn

'Yn ôl,' meddai Pedr, 'mae y Meistr wedi dweud wrthyf am fynd.' Aeth Iago yn ôl at y disgyblion yn bur ddistaw, a moryn mawr yn dod wedyn ac yn taro'r hen gwch nes ei hanner syfrdanu.

Yr oedd dwy hwylbren sbâr wedi eu bolltio i'r dec ond cododd y moryn yr hwylbrennau a'r bolltiau fel bod dwr yn rhedeg i lawr i'r hats.

'Mae y Meistr wedi dweud wrthyf am fynd,' meddai Pedr, a moryn arall yn dod.

Un noson gwthiodd moryn ddrws ei ystafell yn agored pan oedd yn ei wely nes yr oedd yn wlyb domen.

Gwaethygodd y storm, ysgubodd moryn mawr drosti a golchi'r ddau gwch achub i'r môr a malu'r olwyn llywio.