Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mud

mud

Gall camerâu teledu wneud llawer o'r gwaith disgrifiadol erbyn hyn ond mae lluniau mud, heb eu dethol a'u pecynnu gan ohebydd, yn rhyfeddol o ddi-ystyr.

Ond un o'r cysuron mwyaf i mi oedd fel y dysgodd ganu Hen Wlad Fy Nhadau mor ddiffwdan (gyda holl urddas pysgodyn aur mud, marweddog) ar amrantiad (drwy osmosis) yn y ddywededig gynhadledd ar lan hen Afon Ddyfrdwy ddofn, yng nghwmni yr anwylaf gwnewch-i- mi-fedd-mewn-unig-fan Wyn.

Wedyn dyna ailadrodd yr un gosodiad, yn fwy grymus: diddim a mud yn y gofod yw 'holl drybestod dyn a byd'.

Fel y ciliai'r tonnau ymgodai'r creigiau'n ymgodai'r creigiau'n dduon i wahodd yr adar arnynt, piod y mor yn gwichian yn stwrllyd ar bilidowcars mud, llonydd, anodd iawn eu gweld heblaw pan drwsient eu plu neu ysgwyd adenydd cyn setlo drachefn ar eu harsyllfeydd.

Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thŵr, am rai blynyddoedd ar ol hyn: clywais ambell hwyrnos sŵn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd.

Roedd rhywbeth yn achosi penbleth i Gethin hefyd, ond ni chafodd amser i benderfynu beth, oblegid roedd syndod mud y ddau ffrind yn achosi i'w gosgordd golli eu teimladau o barchedig ofn tuag at y brodorion cyntefig.

Dim ond dau a adawyd ar ôl, plentyn dall nad oedd wedi gweld dim, a phlentyn mud a byddar na fedrai ddweud beth oedd wedi digwydd.

Yn ôl y chwedl, am hanner nos ar y noson cyn y Nadolig, mae'r anifeiliaid mud yn y stabal yn medru siarad mewn lleisiau dynol am ychydig bach o amser.