Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mwd

mwd

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.

'Byddai mam, wedyn, wyddost, yn hel y buchod i'r llyn, ac yno byddent yn cicio'r mwd o'r gwaelod.

Ac y mae'n fwy gwahanol fyth erbyn heddiw ynghanol yr anghenfilod o beiriannau diweddau yma sy'n medru symud yn eu nerth eu hunain a hyd yn oed heb olwynion o danynt, dim ond stribedi dur yn ymgreinio fel lindys trwy greigiau a mwd a mawn a chors.

'Rwy'n awgrymu eich bod yn dewis lliw pastel, tawel, fel ei fod yn adlewyrchu mwd y cwrdd eglwys'.

Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.

"Ydach chi'n meddwl y medra i gael ych help chi i symud y car 'ma o'r mwd?

Roedd y llanw'n uchel, dim golwg o'r mwd, a mastiau cychod hwylio yn cwblhau darlun dymunol tu hwnt.

Tra eich bod wrthi, sylwch hefyd fod darnau mawr o dywodfaen frown i'w gweld ar draws y traeth, a bod olion crychdonni'r Môr Triasig yn ogystal ac olion craciau a wnaethpwyd yn y mwd wrth iddo sychu dan yr haul Triasig tanbaid.

Pan straffagliais allan o'r dŵr fel chwiadan wlyb a drewdod y mwd yn fy ffroenau, yn y pellter, newydd ymddangos o'r coed, sleifiau Talfan a'i griw, a'i wn yn hongian dros ei ysgwydd.

'Roedd o'n beth digon amlwg na fuasai neb yn disgwyl i'r Beibil fod yn siarad, er y byddai y bobol oedd yn hwnnw yn gorfod siarad ar bnawn Sul pan fyddai yna holi'r plant yn yr ysgol þ "Be ddeudodd Samiwel bach wrth Dduw 'y mhlant i?" 'Roedd pobol mewn oed yn sôn bod yna bethau digon difyr fel cerdded drwy'r mwd a chwffio efo llewod yn Nhaith y Pererin, ond 'doedd dim dichon cael hyd iddyn nhw fel y medrech chi gael hyd i Dôn y Botel neu Spargo'r Felin yn Nedw.

Ni ellir bod yn sicr bellach, wrth gwrs, bod newid mewn mwd, a achoswyd gan cortison, wedi amharu ar benderfyniadau Kennedy pan oedd yn Arlywydd.

Meddai wrthyf cyn diflannu i weithio ar ei haraith 'Diolch i chwi am ei gwneud yn hawdd i mi drwy eu rhoi yn y mwd iawn gyda'r stori wych.' Wel, yr oedd yn gwybod sut i blesio a gwerthfawrogi--yn wahanol iawn i'w rhagflaenydd swta!!

Yn y teithiau hyn oedd dada yn aros noson ar y ffordd nôl yn lle Dei Hughes neill Bob Owen, gan fod y daith yn ormod i'w gwneud mewn dydd drwy'r mwd.

Lai nag wythnos yn ôl dangosodd lun du a gwyn sgleiniog ohono'i â 'nhrwyn yn y mwd a 'nhin i fyny.

Ar lan y llyn mae rhai tai reit solet, wedi eu hadeiladu a brics cochion, ac yna strydoedd clos o dai sy'n gymysgedd o frics a mwd.

Ta-ta i'r camera a ddaliai, ar dair ffrâm a hanner yr eiliad, yr eiliad yr oedd cydbwysedd rhywun yn y lle anghywir, neu ei ddwylo yn yr awyr, neu ei wyneb yn y mwd.

Pan geisiodd y gŵr camera ddringo i mewn i'r car, gyrrwyd y cerbyd i ffwrdd gan lusgo'r dyn ar ei hyd drwy'r mwd.

Ymdrech Haig i symud allan o Ypres yn fethiant ym mwd Fflandrys.

Mae rhai pentrefi hefyd gyda muriau mwd sy'n amgylchu'r holl gymuned, ar wahan, wrth gwrs, i'r gwehilion.

Tua chanllath oddi yno bu'n rhaid i'n bws stopio am fod rhes o geir yn sownd yn y mwd ar y ffordd.