Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mwmian

mwmian

Rwyt yn ceisio mwmian rhywbeth, gan dynnu'r sbienddrych o'th ysgrepan.

Mwynhaodd y sylw a llithro'n ôl i'w blynyddoedd melyn - cysgu yn yr un ystafell fechan lle y gwelsai wyneb Duw yn y lleuad a chlywed Evan Moses yn mwmian am Ei gartre i fyny rywle yn yr awyr.

Cofia, saith o'r gloch nos Lun." Wrth sefyll am foment ar ben y lôn wedi dywedyd 'Nos dawch,' clywn fy nghyfaill Williams yn mwmian canu - "'Does unman yn debyg i gartref." Pan gyrhaeddais gyffiniau Siop y Sgwâr ar noson y cinio yr oedd yn amlwg fod ysbryd y Nadolig wedi meddiannu'r lle.

Un noson cariodd Mr Hughes lawer o hwyliau a daeth y Capten i fyny a dweud wrtho am dynnu hwyliau oddi ar y llong, ac o dan ei wynt yn mwmian, "Dam, you know nothing, fear nothing".

Pobl unplyg, gweddigar, duwiol, yn mwmian emynau wrth ladd y gwair a chywain y cynhaeaf, yn cynnal y weddi deuluaidd bob bore wrth ford yr allor, gan dynnu Duw i lawr i'r ceginau rhwng y potiau a'r pedyll.

Mae'r Teledu yn mwmian ymlaen yn undonog ac i fyny'r grisiau, yn y cefndir pell clywir curiad trwm cerddoriaeth Gari.) Mam!

Roeddwn ar fin anobeithio'n llwyr pan gododd y meindar yn flinedig a mwmian rhywbeth am yr amser prin a gâi yng nghwmni ei deulu.