Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mwng

mwng

"Neidia ar ei gefn, Deio," meddai Idris, "i ti gael marchogaeth i'r Cwmwd." "Na wnaiff wir," meddai Cadi yn yr un llais yn union â'i mam, "ddim yn ei ddillad gorau." Gafaelodd Deio ym mwng Llwyd a cherdded ymlaen felly.

Hedfannai ei gwallt yn gudynnau brith o gylch ei phen, fel petai newydd gael sioc drydan, ac roedd ei chap nos lês wedi ei luchio'n ôl yn gam ar gefn ei phen gan y mwng gwyllt.

Hen arferiad cas gan Owain Goch oedd tynnu yng ngwallt yr eneth fel tynnu ym mwng march.

Mae'n rhaid diolch hefyd i Gruff Rhys o'r Super Furries. Beth bynnag ydym ni'n ei feddwl am ei honiadau nad yw Mwng yn cael ei chwarae ar Radio Cymru - sy'n gwbwl anghywir gan ein bod yn chwarae caneuon oddi arni yn gyson - roedd hi'n wych i'w weld ar y llwyfan yn derbyn dwy wobr ar ran y Super Furry Animals.

Ac er gwybodaeth, dyma'r cynnyrch cyntaf i ymddangos ar Placid Casual – label Super Furry Animals – ers i Gruff Rhys a'r criw ryddhau Mwng union flwyddyn yn ôl.