Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mwyar

mwyar

Clywais droeon am yr hen orchymyn i ni beidio â chyffwrdd mwyar duon ar ôl bydd Calan Gaeaf.

Blasus, dymunol a derbyniol oedd y mwyar!

Ac (os maddeuwch i mi am estyn y gymhariaeth) yr oedd y rhan fwyaf o'r syniadau hyn yr un mor drwythadwy â mwyar duon Medi.

COCH Y BERLLAN - Ffrwythau egroes TITW TOMOS LAS - Mwyar duon COCH DAN ADAIN - Afalau TELOR PENDDU - Eirin Ysgaw

Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.

Elen: Eirin pêr ac afalau gloddiau'r ydlan a'r clos, llus-duon-bach, mwyar, llugaeron, afan a syfi, ddigonedd .

Mae'r mwyar duon yn dechra' troi'n goch rŵan, ond mi fydd 'na dipyn o wsnosa' nes eu bod nhw'n barod i'w hel.

Mae amryw ohonynt yn hoff o ffrwyth y ffawydd a'r wernen, hadau dant y llew a mwyar o bob math.

Beth bynnag am hynny, tywydd oer yr hydref sydd yn atal aeddfedu'r mwyar hwyr, ond cyn hynny ceir dau benllanw o ymborthi arnynt.