Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

myfyrio

myfyrio

Er mor ddiddorol ac atyniadol yw rhai o'r ffresgoau a'r ffenestri hyn, y gellir eu gweld o hyd mewn ambell eglwys yng Nghymru a gwledydd eraill, ni ellid honni ar unrhyw gyfrif eu bod yn ddigonol i gymryd lle darllen y Beibl a myfyrio arno.

Pa ryfedd i Ddwynwen hoffi'r lle, ni ellid cael amgenach hafan i encilio a myfyrio.

Er hynny, ni chofiaf erioed i mi ddarllen dim di-werth a ddaeth o'i law; i'r gwrthwyneb, gallai ysgrifennu am yr hyn a ymddangosai'n ddi-werth mewn ffordd mor fyw a deniadol fel na ellid ymatal rhag myfyrio ar ei gyfansoddiadau drosodd a thro, gan droi cylchgrawn dros amser yn drysor parhaol i'w anwylo.

Ni fyddai Francis yn siarad rhyw lawer; myfyrio, a meddwl rhyngddo ac ef ei hun y byddai fel arfer, ond os byddai'r pwnc wrth ei fodd byddai ganddo ddigon i'w ddweud, a hwnnw'n ddweud synhwyrol.

Clywais ef yn dweud iddo eistedd oriau wrtho'i hunan ar y bryn a elwir 'The Hill of Tara' - hen gartref Uchel Frenhinoedd Tara - yn myfyrio am hen orffennol y genedl Wyddelig, a bron, meddai ef, na allai weld yr hen ogoniant yn rhithio o flaen ei Iygaid wrth eistedd yno.

Ond ers tri mis, bron, heb ddangos na digalondid ymosodol na dicter na phrudd-der ymwinglyd, fe eisteddai'n dawel yn ei gadair gornel fel hyn a myfyrio yng nghanol y mwg.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Canodd Cynan am y Tad Damien a fu'n gofalu am y gwahangleifion ar Ynys Molókai ym Moroedd y De, ond yn guddiedig-gyfrwys mae'n sôn am y Rhyfel Mawr ar yr un pryd, ac wrth fyfyrio ar aberth eithaf y Tad Damien yn myfyrio ar aberth y milwyr yn y Rhyfel Mawr yn ogystal.

Gallai hwn bara awr neu ddwy, er mwyn rhoi amser digonol i'r gynulleidfa ystyried amryfal oblygiadau'r ddeialog gynnil a myfyrio trostynt.

Ei bryder ef a phawb arall mewn awdurdod yn yr Eglwys o glywed fod rhai o'r ffyddloniaid yn darllen yr Ysgrythurau oedd mai arwain at heresiau ac anuniongrededd a fyddai darllen a myfyrio'n breifat ar y Beibl heb gyfarwyddyd diwinyddion cymwys a phrofiadol.

Bydd yn teimlo pryder yn yr Hydref rhag ofn bod ei dail wrth ddisgyn yn peri blinder i'r teulku drws nesaf neu'n myfyrio ar faint o arian a gâi pe torrai hi i lawr a'i gwerthu fel coed i'r saer.

Un diwrnod, cerddai ar stryd yn yr East End enwog yn myfyrio uwch ei thynged.

Ac o dosturio, dechrau myfyrio ar dynged dyn ac anifail.

Ie, dyna chi, siocled yw'r testun mae Meira yn myfyrio drosto y mis hwn...

Dyma gylch cyfarfod sydd wedi gafael a thyfu, cylch o bobl o wahanol enwadau o fewn y dref sy'n dod at ei gilydd i sgwrsio, yfed te a choffi a myfyrio ar y Gair, a hynny bob bore Mawrth yn Festri Salem.

Nid bod llawer o'r rheini wedi bod yn fy achos i chwaith ac y mae dyn yn cael blas masoc-istaidd ar y dalar fel hyn yn myfyrio ar ei fethiant!

Myfyrio methiant

Dyna effaith ddiatreg yr enw hwnnw ar fy meddwl i yn aml, ac y mae'n rhan o gynnyrch mynych gymdeithasau â'r ddau a myfyrio arnynt wedyn.

Beth bynnag, un noson, ac yntau wedi mynd i lawr i'r caeau i mofyn y gwartheg i'w godro (yn Rhosaeron?) ac yn myfyrio am Franwen yr un pryd - fe ddaeth 'Cofio' i fodolaeth.

O gwmpas gweddi, bwyd a Beibl, cafwyd myfyrio uwch yr angen i frwydro dros wirionedd ond hefyd i geisio cymod.