Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mympwy

mympwy

Mae hyn yn dangos mai canlyniad i bolisi swyddogol y Cynulliad yw dwyieithrwydd y cyfarfod, nid mympwy personol y Cadeirydd.

Yr oedd gwrandawyr yn aml iawn yn crwydro o gapel i gapel ac o enwad i enwad yn ôl eu mympwy a gallent yn hawdd ymddangos yn ystadegau amryw eglwysi.

Does dim rhesymeg na thefn i'r nodiadau hyn, dim ond mympwy a phleser.

Wrth edrych ar y terfynau igam-ogam ar y mapiau, mae'n amlwg mai mympwy yn hytrach na bwriad a osododd i lawr lun a maint y plwyfi.

Ond er cydnabod anorfodrwydd goddrychedd beirniadaeth, mae rhai nodweddion sydd heb fod, hwyrach, yn wrthrychol mewn ystyr wyddonol, ond sydd eto mor gyson gyffredin i weithiau sydd wedi eu profi eu hunain yn abl i oroesi pob barn a chwaeth a mympwy, nes mynnu eu lle fel anhepgorion.