Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mymryn

mymryn

a ydych am ddweud wrthynt eu bod i fynnu cael gan y gelyn y mesur iawn o gyfiawnder i'w gwlad, a bod cael mymryn yn rhagor na hynny yn eu gwneud, o fod yn weinidogion cyfiawnder, yn weithredwyr gormes a chamwri ?...

Nid gwamalu a fyddai cymysgu'r llythrennau, a'i alw yn 'Aruthr' Oni ddaeth trwy adfyd chwerw heb suro un mymryn, a llwyddo i weithio yn swyddfa'r heddlu, a dod yn rym dewinol mewn sawl maes?

I'w coginio'n gynt a chadw mwy fyth o'r maeth gellir torri'r betys amrwd yn stribedi mân, eu rhoi mewn sosban gyda'r mymryn lleiaf o ddŵr a llond llwy fwrdd o olew'r olewydden neu flodyn yr haul.

A dydw i ddim yn sôn am fynd â mymryn o eog adref i'r gath chwaith.

, gan gyfeirio at Wil, a phawb yn chwerthin a chyfrannu mymryn o ffraethineb at y sgwrs, a Dic yn rhoi hergwd i ysgwydd Wil, a hwnnw'n gwenu heb falio dim.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Gwych o gyffelybiaeth yw'r un a geir yn y pennill cyntaf: y tonnau a'r graig yn noethi eu dannedd ar ei gilydd ond heb y mymryn lleiaf o sŵn i'w glywed.

"Dim mymryn o drafferth, chwarae teg i'r beth bach."

Ceir coed derw sy'n cochi - y Quercus rubra a'r Quercus coccinea - mae rhai o'r rhain wedi eu plannu yn ein fforestydd ni i ni gael mymryn o liw.

O'i chyferbynu ag eiddo ei gūr, syml a phlaen oedd gwisg lwyd Lowri Vaughan, sylwodd Meg gyda pheth malais, a dygwyd pob mymryn o liw o'i hwyneb main a hir gan y ffisiw brown a fradychai yn hytrach na chuddio teneurwydd ei bronnau.

A chael cweir iawn gan i gyd-dduwia am roi rhywbeth mor ddanteithiol i ddim ond mymryn o ddynoliaeth.

Gyda phawb sy'n dod ar y penwythnos yn aros yng ngwesty pedair seren Jury's ynghanol Caerdydd bydd amser rhydd yn cael ei neilltuo ar gyfer mymryn o siopa Nadolig yn y brifddinas yn ystod yr ymweliad.

"Doedd gin i ddim mymryn o help, mi oedd hwnna wedi dwyn ein lle ni." Wnaeth Sam ddim troi ar 'i fab.

Sci dchown dder, chiw, go chyp chon ddy lifft!" Rwan nid cadair oedd yn fy nisgwyl ond polyn hir o'r awyr a mymryn o fotwm ar ei waelod - i eistedd arno - debyg!

Yn teimlo mymryn yn flin wrthi, neidiodd Rhys i lawr o'r siglen a mynd i weld beth oedd yn ei phoeni.

Tegeirian tal, cain ei wedd, o liw pinc tywyll ydyw, a'i arogl hyfryd o sbeis a mymryn o 'carnation' yn cryflhau fin nos er mwyn denu'r gwyfynnod i'w beillio.

Trodd ati, fel petai'n gallu synhwyro ei beirniadaeth, a phan siaradodd roedd mymryn o gerydd yn ei lais.

O sicrhau adnoddau ar gyfer y plant ar bobol ifanc mae gobaith y gwelir lleihad yn rhai on problemau cymdeithasol yn ogystal ag adeiladu mymryn o hunan-barch.

Yn yr Ail Adran collodd Bristol Rovers. Mae hyn yn rhoi'r mymryn lleia o obaith i Abertawe y gallan nhw osgoi disgyn yn ôl i'r Drydedd Adran.

Heblaw hynny, roedd sgorio Lloegr yn arbennig o araf, dim ond mymryn dros dair rhediad y belawd oedd eu hangen ar Sri Lanka i ennill.

* "Mae gen i dyst nad oedd mymryn o fai arna i ond yn anffodus fedr o ddim darllen na sgrifennu ac mae'n ddall a byddar..." LLOCHES

Yn sblashio drwy byllau dŵr a phasio loris trymlwythog ar hyd ffyrdd cefn gwlad Dyfed, a dim ond mymryn o'i llais ar ôl yn y swyddaf.