Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

myned

myned

Dymunwn yn dda i Emyr a Massie yn y ddinas dros y Fenai, diolch am eich cwmni a'ch cefnogaeth, mae eich myned yn golled i'ch cymdogion ym Mhorthllechog.

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Beth bynnag yw rhinweddau ardaloedd, a gwledydd eraill y byd, gallaf innau dystio fod bro fy mebyd a'i llechweddau yn 'myned o hyd yn fwy annwyl im'.

Byddai Morgan Llwyd yn pregethu ym Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy'r farchnad a'i ddwy law ar ei gefn, a'i Feibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.

Y mae distawrwydd y carchar yn debyg i ddistawrwydd mynwent ar ganol nos, y distawrwydd ofnus annaearol hwnnw y gellwch wrando arno a'i glywed; y distawrwydd dirgel, dyrys sydd yn eich amgylchu ac yn araf y eich gorthrechu; yn myned drwy dyllau'r croen i'r corff, yn cerdded drwy'r gwaed i'r galon ac i'r ymennydd.

Dyfod pan ddel y gwgw, Myned pan el y maent, Y gwyllt atgofus bersawr, yr hen lesmeiriol baent.

Y misus, druan, ydoedd wedi myned i ffordd yr holl daear.

Dechreuodd ef ddarllen llenyddiaeth Gymraeg yn llanc, ac wedi myned I Rydychen gwnaeth ffŵl o'r drefn afrywiog a ddechreuodd ei wneuthur yn fathemategwr, trwy ymroi i ddarllen Cymraeg a gwrando ar ddarlithiau John Rhys.

Ond yng ngeiriau Syr T H Parry Williams, mae Towyn yn un o'r bobl ryfeddol hynny sy'n "myned yn iau wrth fyned yn hŷn".