Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mynediad

mynediad

Wedi methu cael 'fisas' yr oeddan nhw - mae Oman gyda'r wlad galetaf yn y byd i gael mynediad iddi.

Gellir defnyddio cymorth, ar ffurf technoleg, i ennill mynediad ehangach i'r amgylchedd.

Roedd milwyr Iran ym mhob man oherwydd yn ystod y rhyfel rhwng y ddwy wlad roedd Iraq wedi ceisio defnyddio'r groesfan ar fwy nag un achlysur er mwyn cael mynediad i Iran.

Os oes ond ychydig o batrymau ymddwyn positif ar gael, a mynediad cyfyngedig i siopau, llefydd gweithio a gweithgareddau hamdden, yna gellir gwneud hunan-ddatblygiad yn nod ffurfiol.

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

Un o bynciau trafod y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd yw tocynnau yn caniatau mynediad didramgwydd i gymar pob aelod.

Ers rhyw dri mis, bellach, yr ydw i wedi cael mynediad i Channel Five.

Anodd cael hyd i eiriau i gyfleu yn iawn pa mor wrthun yw penderfyniad Jack Straw i ganiatau mynediad i'r Treisiwr Tyson i'r Alban.

Ond roedd y chwilen ddþr wedi cael llond ei fol ar fod yn atebol i rai islaw ei sylw; er bod y rhain yn ôl pob golwg yn ddigon pwysig i gael mynediad i'r castell ac yntau ddim.

Llwyddodd i gael 'Supplement Certificate in Latin and History', a thrwy hynny sicrhau mynediad i'r Brifysgol.

Yr oeddwn wedi gobeithio cyflwyno'r adroddiad i'r cyfarfod hwn ond yn anffodus y mae'r Adran yn cael trafferthion gyda chael mynediad i bas data NOMIS, sef rhaglen meddalwedd "byw% sydd yn dal y wybodaeth.

Mae'n union fel pe byddech chi yn gwrthod mynediad i rywun i'ch ty ond y dyn drws nesaf yn eich gorfodi i'w adael i mewn.

ALLWCH chi ddim gwrthod mynediad i rywun i dy bwyta neu sinema oherwydd lliw eu croen, neu oherwydd eu bod nhw'n ddyn neu'n fenyw.

Lle diogel i weithio ynddo a mynediad diogel iddo.

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn galw, felly, ar y Cynulliad Cenedlaethol i ffurfio Deddf Iaith Gynhwysfawr a fydd yn gosod seiliau cadarn i drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru fel ei bod yn bresennol ac yn hyfyw ym mhob maes fel y gall holl bobl Cymru gael mynediad iddi.

Y ffordd orau yw i'r gohebydd a'r cyfarwyddwr neu'r newyddiadurwr gael mynediad fel twristiaid a chysylltu â'r criw lleol ar ôl cyrraedd y gwesty.

Maen nodi bod y Ganolfan Gwybodaeth newydd bellach yn darparu mynediad i'r cyhoedd i BBC Cymru, fel y gall gwylwyr a gwrandawyr fynegi eu barn au pryderon yn uniongyrchol i'r BBC. Gellid gwneud mwy hyd yn oed i annog adborth, o bosibl drwy ehangu a hyrwyddo cyfleusterau arlein.

(a) i'r cais am ystafelloedd ychwanegol yn y Bala a Thywyn gael ei dderbyn, cyn belled ag y byddai cyfleusterau mynediad hwylus yn cael eu cytuno.

Yn lle dysgu'r Gymraeg fel pwnc yn unig mewn ysgol ardal, caiff y plant y cyfle i'w dysgu fel allwedd mynediad i ddiwylliant y pentrefi y maent wedi symud i fyw iddynt.

Mae nifer yr ymwelwyr i amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru wedi cynyddu 34% ers cyflwyno mynediad am ddim i blant a phensiynwyr.

Unrhyw un arall sydd a diddordeb yn y maes ac sydd a mynediad at blant uwchradd ar gyfer cyflawni'r gwaith ymarferol.

Yn wythnos olaf Medi yr un flwyddyn yr oeddwn ym Mangor drachefn yn sefyll arholiad arall - yr un i gael mynediad i Goleg Bala-Bangor.

heb amheuaeth, cafodd pêl-droed yng nghymru ergyd greulon a'r unig achos llawenydd oedd yr un cwbl negyddol i loegr hefyd fethu a chael mynediad i'r america hefyd.

Yn y gorffennol, roedd modd i bawb, o ba bynnag gefndir, fwynhau addysg gerddorol ardderchog wedi llwyddo mewn arholiadau mynediad.

Mewn ymgais i greu mwy o farchnad, mae Ankst wedi dilyn polisi brwd o hysbysebu'n helaeth ac yn yn gyson, gan arbrofi gyda dulliau gwahanol - fel rhoi copi%au am ddim o un record sengl newydd gyda'r tocynnau mynediad i ddawns lwyddiannus ym Mhafiliwn Ponthrhydfendigaid adeg Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y llynedd.

Os derbynnir y ddadl honno, rhaid derbyn yn ogystal mai pris mynediad ar y telerau hynny oedd stad o israddolder andwyol sy'n dal i grawnu yn ein bywyd cenedlaethol gan 'dorri mas yn achlysurol yn gornwydydd piws.

Deddfir "Na byddo iddynt bri%odi un digred, na dilyn erferion anllad llygredig y byd yn eu rhag-gyfeillach, ac yn eu mynediad i'r 'stad briodasol".

Yr ysgub oedd un o'r gwrthrychau cyntaf i'w cludo i gartref newydd ac yr oedd ei gosod ger rhiniog y drws yn gyfrwng i rwystro mynediad i unrhyw un a oedd yn debyg o fwrw melltith ar y teulu.

Am ei fod mor gyndyn o ddefnyddio cadair olwyn roedd yn cael ei ynysu fwyfwy yn gymdeithasol ac roedd llai o gyfle ganddo i gael mynediad i'r gymuned.

Dathliad pwysig arall yw Dydd Oxi (sy'n golygu Na) ar Hydref 28 i gofio'r dydd y penderfynodd y Prif Weinidog ddweud Na a gwrthod mynediad i'r Eidalwyr i'r wlad yn 1940 - y weithred a sicrhaodd fod y Groegwyr yn ymuno â'r Ail Ryfel Byd.

Gellir dadlau, mae'n wir, fod ei charedigion wedi sicrhau mynediad iddi i ysgolion y wladwriaeth drwy gynllunio strategaeth ac ymarfer tactegau cyfrwys i drechu'r rhagfarn na fynnai weld yr iaith ond fel gwreiddyn stwbwrn '...' .

ar gyfer mynediad i bobl ifanc i Faes yr Eisteddfod.

Mynediad £5.

Roedd miliwn o Kurdiaid eisoes wedi cael mynediad i'r wlad ac yn derbyn gofal mewn gwersylloedd a godwyd yn arbennig ar eu cyfer.

Gofynion Mynediad Cymhwyster dysgu (Tystysgrif Athro, Gradd B.Add., Gradd BA/B.Sc.etc.

* Mannau y cyfyngir mynediad iddynt

Rydym yn galw, felly, ar y Cynulliad Cenedlaethol i ffurfio Deddf Iaith Gynhwysfawr a fydd yn gosod seiliau cadarn i drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru fel ei bod yn bresennol ac yn hyfyw ym mhob maes fel y gall holl bobl Cymru gael mynediad iddi.

* cadeiriau olwyn peiriant i oresgyn llawer o rwystrau mynediad a thrafnidiaeth * cynorthwyon cyfathrebu sy'n gwella cyfathrebu i bobl sydd a nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd * cyfrifiaduron sy'n hwyluso'r dasg o gael gafael ar wybodaeth a chysylltiadau * gosod systemau rheoli amgylchedd sy'n galluogi llawer o