Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mynegwyd

mynegwyd

Y farn gyffredinol oedd bod y Gyngerdd wedi bod yn hynod lwyddiannus a chyffrous, a mynegwyd hynny yn glir dros ben.

Ynglŷn â phob cwestiwn o natur grefyddol mynegwyd difaterwch enbydus.

Bu cryn drafod ar y mater hwn yn ystod cyfnod y Mesur yn y Pwyllgor Dethol yn San Steffan, a mynegwyd cryn anniddigrwydd gyda'r canllawiau gwirfoddol hyn.

Bydd rhywun yn sicr o ofyn pam, os oedd yr elw mor uchel, y mynegwyd y fath syndod pan ddatgelwyd y cyfrifon.

Mynegwyd pryder gan swyddogion Neuaddau Pentref Meirionnydd ynghylch y costau uchel o'u cynnal, trethi dwr uchel,a TAW ar danwydd.

Ymhellach mynegwyd y farn ein bod yn gofalu am ein canghennau ni yn gyntaf cyn rhannu arian i elusennau eraill.

wrth drafod y profion darllen ac ysgrifennu, mynegwyd pryder fod argraffu profion mewn pedwar lliw ar gyfer pedair haen yn tynnu sylw anffodus at asesiadau nad ydynt eto yn wybyddus i'r disgyblion.