Byth er y dydd hwnnw y bu'n dyst anfodlon i foddi Betsan, mynnai'r hen wreigan ymwthio i'w ymwybyddiaeth, yn enwedig pan dueddai i'w gysuro ei hun fod popeth yn llaw Duw.
mynnai Waldo goroni pryddest Dafydd Owen, ond ni fynnai'r ddau feirniad arall gytuno ag ef.
Tra credai'r clasurydd Eliot na ellid llenyddiaeth fawr heb awdurdod allanol traddodiad yn sail iddi, mynnai Murry mai cydwybod yr unigolyn oedd yr unig faen prawf dibynadwy mewn llenyddiaeth ac ym mhob cylch arall o fywyd: Nid oedd gan Eliot ddim i'w ddweud wrth awdurdod mor wamal a chyfnewidiol.
Gwarafunodd iddi ddatblygu fel y mynnai.
Chwipiwyd cudyn o wallt gwyn yn rhydd o dan ei sgarff wlân a neidiai hwnnw i'w llygaid a'i cheg fel mynnai'r gwynt.
Mynnai gael swm pendant i anelu ato wrth gynilo.
Felly y sefydlwyd New South Wales, ac yn ddiweddarach Van Diemen's Land a gorllewin Awstralia, yn garchar eang i drigolion yr hen wlad y mynnai'r awdurdodau eu gwaredu.
A mynnai gadw hen gysylltiad y Brifysgol â'r werin.
Yn union fel y daeth hynny'n sylfaen ffydd Israel trwy gydol ei hanes diweddarach, mynnai'r Cristionogion mai trwy Iesu y cyflawnodd Duw waredigaeth ei bobl maes o law.
Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.
Mynnai'r canoniaid fod Ferrar yn gohirio anfon papurau'r achos iddynt gyhyd ag oedd yn bosibl er mwyn ei gwneud yn anodd iddynt amddiffyn eu hunain a haerai Ferrar fod y canoniaid yn ei rwystro rhag gweld y dogfennau yn Nhyddewi a oedd yn diffinio hyd a lled ei waith a'i awdurdod fel esgob.
Mynnai Modryb, ar ôl estyn bocsaid mawr iawn o hencesi papur o'i ches, mai am fod yna lwch rhwng cynfasau'r gwely roedd hi wedi tisian.
Mynnai R.
Gwell fyth, mynnai Cynhadledd yr Undeb yng Nghaergybi roi imprimatur swyddogol ar safle Penri fel arwr Ymneilltuaeth.
Ni allai'r alltud anghofio 'aelwyd y bwthyn gwyn' pes mynnai; roedd iddo'n 'bur haddef anhun a breuddwyd' ac o sylweddoli ei ddyled iddi, 'O ddedwydd aelwyd!', rhaid oedd ymdynghedu i ailgodi ei hallor ac addoli eu Duw 'mewn dieithr oror'.
Mynnai'r Koreaid gario allan orchmynion Siapaneaid y gwersyll, ond nid oedd y drefn hon bob amser yn cyd-fynd ag amserlen y Siapaneaid oedd yn gyfrifol am y gwaith.
Yn y cyfamser, fodd bynnag, mynnai Arabrab fod Ynot yn cysgu gyda hi bob nos, a rhaid oedd iddo yntau ufuddhau er bod ei hystafell wely a phob peth ynddi, a phawb ond Ynot ei hun yn drewi o wynwyn.
ddiwethaf yn dangos yn glir nad oedd chwaeth ddarllen y Cymro cyffredin mor gyfyng ag y mynnai eu harweinwyr crefyddol iddi fod a cheir yng Nghymru hithau dystiolaeth nad oedd yr hinsawdd mor wrthwynebus i fyfyrdod rhywiol a hyd yn oed ffantasi%au rhywiol ag yr arferem gredu.
Ond mynnai cymaint o lenorion fynegi eu casineb a'u ffieidd-dod at gyflwr y byd trwy ei gystwyo'n finiog, arabus a chyrhaeddgar er mwyn codi cywilydd ar ddynion a chymdeithas trwy chwerthin am eu pennau a disgwyl y newidient eu buchedd a'u harferion, nes o'r diwedd gydnabod y modd.
Wedi iddi farw mynnai ef iddi gael ei chladdu yng nghladdgell y teulu yn eglwys Penbre.
Cerddi eraill: mynnai Waldo goroni pryddest Dafydd Owen, ond ni fynnai'r ddau feirniad arall gytuno ag ef.
Pe medrai, mynnai adfer poethder yr hen hafau i'w wythiennau brau.
Dywedodd ar sawl achlysur sut yr oedd cymeriadau byw ei blentyndod yn mynnu ail-fyw yn ei gof, fel y mynnai Gŵr Glangors-fach, ei ferched a'r cymeriadau eraill feddiannu ei ddychymyg.
Mynnai'r hoywon eu hawl i fyw mewn cymdeithas, heb ofni rhagfarn na sarhad, a dathlodd y fenyw ei rhyddid newydd.
Mynnai Cradoc na ddylai'r sawl oedd wedi ymuno yn y cyfamod dderbyn trefn eglwysig a oedd yn cynnwys rhai nad oeddent yn Gristionogion diledryw.
Badshah, Moslem wedi troi'n Gristion, i Maulvi Bazaar a chael cefnogaeth frwd gan Pengwern; mynnai Pengwern hyd yn oed ei ordeinio'n weinidog.
Mynnai Glanffrwd mai'r Gymraeg oedd 'canolbwynt ein cenedlaetholdeb'.
Ar y naill law, mynnai'r sawl na allai siarad Cymraeg mai peth anghwrtais iawn oedd siarad yr iaith yn eu presenoldeb.
Nid oedd John Elias yn uchel iawn yng ngolwg Gwilym Hiraethog a mynnai mai David Charles, Caerfyrddin, oedd i'w osod gyda'r ddau arall.
Mynnai hefyd nad hi oedd wedi tisian gynnau, pan oedd Mam yn y stafell ymolchi.
Mynnai eu deuoliaeth hwy wedyn y byddai'n rhaid i ryw doriad sydyn, rhyw newid radical, ddigwydd i adnewyddu'r natur ysbrydol.
Cafodd y cyfle i'w gyrru i ysgol eglwys y plwyf, ond mynnai'r athrawon yno dorri gwalltiau'r merched yn gwta .
Ni fynnwn honni am eiliad fod Morgan Llwyd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o leiaf, yr oedd ei reddfau llenyddol yn ddigon cadarn i sicrhau fod pob ystyriaeth ramadegol yn cyd-uno i ddiogelu'r effaith a'r dôn y mynnai eu consurio.
Bu cryn bwysau arno i chwarae golff, ond mynnai mai gêm i bobl heb ei gwneud hi oedd honno, gêm lonydd barchus i athrawon a gweithwyr banc, pobl heb lawer o egni meddyliol heb sôn am gorfforol.
Mantais arall oedd cael croesi rhwystrau rhwng yr ardaloedd Protestannaidd a Chatholig fel y mynnai.
Os oedd hi'n ddydd gwaith, a dyn yn ymdrechu, hyd orau'i allu i chwibanu a chodi'i galon wrth gerdded yn anfoddog tua'r ysgol, mynnai'r galon guro'n gyflymach wrth imi brysuro heibio'r rhes o dai lle roedd Talfan yn byw, ac yno y pwysai'n llechwraidd yng nghysgod y drws, ei wallt cnotiog du yn ei lygaid a darn o'i dalcen yn gwenu arnaf.
\Cyfeirir yn Efengyl Ioan a awydd llawer o'r bobl yng Ngalilea am ei wneud yn frenin, ac awgrymir mai dyna'r rheswm pam y mynnai ymneilltuo i le anghyfannedd, cilio i'r mynydd (vi.
Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.
Mynnai un ohonynt chwilio am nodwyddau hypodermig a chwistrellwyr ym mhob man, ac wedi iddo fethu'n lan a'u cael holodd tybed a fyddent ar werth yn y siop di-dreth yn y maes awyr?
Roedd hi'n ddyletswydd arni ddysgu'i phlant sut i fihafio, fel roedd hi'i hun wedi cael ei dysgu, mynnai Modryb.
I'r gwrthwyneb, mynnai'r ddysgeidiaeth swyddogol fod gwerth sacramentaidd arbennig mewn gwrando'r gair heb o anghenraid ei ddeall.